Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYD FYW — IV GAN O. E. ROBERTS GOLYGA cyd-fyw gystadlu brwd, nid yn unig rhwng gwahanol rywogaethau ond rhwng unigolion o'r un rhywogaeth. Prin y mae hynny'n amlycach mewn unman nag wrth i rai adar chwilio am gymar. Datblyga'r lliwiau cyfoethog ym mhlu'r ceiliog i'w heithaf yn y gwanwyn pan geisio ddenu'r iâr, a dyna'r adeg hefyd y bydd cân y ceiliog ar ei huchaf a'i phereiddiaf. Tyn y ceiliog cornchwiglen sylw ato'i hun trwy wneud campau ar ei adenydd, ac y mae dawnsio yn nodweddiadol o garwriaeth llawer rhywogaeth. Eithr gan yr iâr y mae'r dewis, pa mor ogoneddus bynnag y bo symudliw cynffon y ceiliog paun a chefn goludog y ceiliog ffesant, a pha mor ddawnus bynnag y bo campau'r lleill. Nid i ddenu'r iâr y daw lliw'r ceiliog ar ei danbeitiaf bob amser ychwaith, eithr er mwyn dychryn eraill. Dyna swydd gwasgod goch y robin. Hyd y gwn i, nid yw lliw coch yn cythruddo'r un tarw YJtg Nghymru nac yn Sbaen, ond gwylltia'r frongoch yn ulw o weld yr un lliw ar aderyn arall. Gwnaeth naturiaethwr sy'n arben- igwr ar hanes yr aderyn hwn arbrawf i ddangos hyn. Gosododd robin marw, wedi ei stwffio, yn agos at aderyn byw; ymosododd hwnnw arno nes ei falu. Yn wir, ni fedrai ond ymateb i'w reddfau yn yr un modd pan osodwyd o*ì flaen ddarn o ddeunydd coch ar wifren. Felly hefyd cân aderyn. Nid denu'r iâr yw ei gwir bwrpas, eithr dangos awdurdod y ceiliog ar ei diriogaeth ei hun. Y mae cefndir diddorol i arwyddocâd y gân. Byw gyda'i gilydd yn heidiau a wna llawer rhywogaeth o adar yn y gaeaf, ond fel y nesâ'r gwanwyn teimlant symbyliad yr hormonau yn eu gwaed, a gedy'r ceiliogod yr haid. Os adar ymfudol ydynt, y ceiliogod sy'n ymadael gyntaf tua'r wlad newydd. Gwaith y ceiliog wedyn yw sicrhau iddo'i hun diriogaeth y medr or-arglwyddiaethu arni tro bo'n sicrhau cymar a magu teulu. Wedi dewis man arbennig, â'r ceiliog i ben coeden, neu Ie cymwys arall, i'w ddangos ei hun ac i bwysleisio'i bresenol- deb trwy ganu ar ei uchaf lais. Pe bai ceiliog arall eisoes wedi llygadu'r fro honno a'i meddiannu, cân yntau ar uchaf ei lais cyn rhuthro i ymosod ar y llall a feiddiodd dresmasu ar ei dir ef. Y trechaf yn y frwydr piau'r hawl ar y fro honno wedyn. Myn y ceiliogod ddarn arbennig o dir yn eiddo personol, er na fedd y darn hwnnw na ffurf na maint gosodedig. Amrywia ehangder