Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AWEN EUROS AC AWEN PENNAR GAN WALDO WILLIAMS Cerddi Rhydd, gan Euros Bowen. Gwasg y Brython. 10/6. Yr Efrydd o Lyn Cynon, a Cherddi Eraill, gan Pennar Davies. Gwasg y Dryw. 7/6. Nid oes neb yn canu yr un fath ag Euros. Mae darllen ei farddon- iaeth fel dysgu iaith newydd. Pan fyddwch yn darllen pennod o'r Beibl mewn iaith anghyfarwydd, mae'r stori weithiau yn dod atoch drwyddi gyda newydd-deb a bywiogrwydd mawr. Felly, y mae yn y rhan fwyaf o'r canu hwn, Cerddi Rhydd Euros Bowen. Oni ddywedech ar y cyntaf, ambell waith, mai dadfarddoni y mae, troi'r ddiriaeth yn haniaeth? Dywed am yr onnen, er enghraifft, y gwisgir ei chynnwrf gan nodd ei llonyddwch, ond pan welwn drwy'r geiriau hyn y gwraidd a'r brigau a'r dail, fe'u gwelwn yn gliriach. "Bydd barddoniaeth yn tynnu llen cynefindra i ffwrdd", meddai Words- worth. Ond mwy na hynny, daeth yr onnen yn nes at ein byd ni, a heb yn wybod i ni'n hunain yr ydym yn dweud ie wrthi, "fel yna y dylwn i fod". Yr ydym yn dyneiddio natur a dywed Euros ei bod hithau yn ein dyneiddio ni. Nid yn hollol yn y cysylltiad hwn, ond yn y defnydd pellach a wna ohono yn gyson, ac a wnaeth ers blynyddoedd, pethau natur yn sumbol o enaid dyn a'i brofiadau mawr arhosol, y mae arbenigrwydd Euros. Ym mherthynas wybren a daear a phridd a thywydd a thyfiant, yr hen themâu elfennol a chyffredinol hyn, deil Euros yn rhyfeddol o newydd yn dehongli hyd y gallo hanfod dyn. Mae'r swyn yn gweithio o hyd. Felly allan yn yr awyr agored y mae e'n cael ei weledigaethau. Gwelais deitl un o'r caneuon, Wrth Dân y Gegin, ond gwelwn ar ôl troi iddi "i fflam dorri trwy fwg prynhawn heddiw a goleuo holl lawr y llyn". Yn y gân hon nid yw'n mynd allan o'r cartref mawr hwn. Ond i b'le'r aeth o'r Berllan? Mae'r berllan yn sefyll mewn pant rhwng yr afon a'r myn- ydd, a chlawdd o bobtu iddi rhwng caeau cyffredin. Mae'n syndod cyn lleied o ofal sydd arni Mi dybiais droeon na ddylai ysgall a danadl dyfu ynddi o gwbwl A dyna'r Hydre wedyn, a'r afalau'n gwisgo croen sidanaidd yr haul, mwg yn ymylu fflam yr eirin, a thân yn dal ym melyster y pêr