Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CADFRIDOG ANGAU (Trosiad o gân enwog Koutozov ar gerddoriaeth Moussorgsky) Gan CYNAN Terfysga'r frwydyr,-llafnau'n fflachio, Rhu'r magnyl fel bwystfilod croch; Gweryra'r meirch, carlama'r gatrawd, A lIifa'r afon wen yn goch. Trwy'r wawrddydd tanbaid pery'r lladdfa, Ar awr y machlud ni phaid y drin, Mae'r golau'n pallu, ond heb ildio Y gelyn saif ar ffyrnig ffin. Disgyn y nos ar gelaneddau, A than ei llen enciliant oll. Tawel yw, ond drwy'r t'wyllwch Gwrando gri'r clwyfedig, cri'r rhai coll. Gwêl draw, lle disgyn golau'r lleuad, Yn hy ar gefn ei geffyl bras Dynesa marchog llwyd a gwaedlyd Yr Angau Glas! Draw, dan y lloer, mae'n gwrando'u llesg wylofain Gan wylied erchyll faes ei brae; Merchyg fel rhyw Gadfridog Concweriol, Merchyg dros faes eu dewrder, maes eu gwae. Mae'n dringo bryncyn, tremio yno Ar fyw a marw, sarrug guchio; A He bu berw'r maes cyflafan Clyw mor chwyrn ei waedd yw ef: <4Pen ar y gad! a'r Buddugwr wyf fi! Ryfelwyr o11, rhaid ich ildio i'm llef. "Chwi fu elynion, gwnaf chwi'n gyfeillion, Yn awr atebwch rôl Angau yn hy, Caewch bob rheng, gorymdeithiwch oll heibio; Cyn toriad gwawr mynnaf drefnu fy llu.