Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Filwyr, eich cyrff gaiff hir gwsg ym mron daear, Melys yw'r trymgwsg sy'n dilyn pob cad. Treigla'r blynyddoedd di-gyfrif, di-hidio, Ni chofia'r byd beth oedd cweryl eich gwlad. "Angau yn unig a gofia'ch gwrhydri, Cadwaf eich coffa fan hyn hanner nos, Dof dros eich rhychau gwael, dof bob nos loergan. Mathraf y pridd fe bo'ch esgyrn yn glyd, Mathraf mor dynn fel na chodwch ynghyd, Ni chewch byth eto ddychwelyd i'r byd". Yn ei soned, Dwy Galon yn Ysgaru, dymunodd Williams Parry gael llosgi ei gorff, a rhoddi ei Iwch "i wynt y nefoedd"; ond ym Mynwent Coetmor, Bethesda, y claddwyd ef. Dyma a ddywedodd Gwilym Evans, Bethesda, cymydog a chyfaill iddo, mewn sgwrs radio a gyhoeddwyd yn Llafar, 1956: Medrir ymdeimlo â'r tristwch yn ei soned "Dwy Galon yn Ysgaru", ac y mae'n siŵr bod gwrandawyr sy'n gyfarwydd â hi yn amau na chafodd Mr Parry ei ddymuniad pan gladdwyd ei weddillion ym Mynwent Coetmor. Pan ddangosodd ef y soned i Mrs Parry gyntaf, dywedodd ei bod yn ei gwneud yn drist. "Pam?" meddai o. "Meddwl y byddwn ar wahân", meddai hi. Gyda'r blynyddoedd, newidiodd Mr. Parry ei feddwl ar hyn, fel y dengys y nodyn canlynol a ysgrifennodd: Coetmor, Bethesda Hydref 4ydd, 1953 Erbyn ail feddwl, nid oes arnaf eisiau cael fy nghladdu ar fy mhen fy hun, na chael chwalu fy llwch ar y gwynt, ond ochr yn ochr a'm hannwyl wraig Myfanwy. Nid yw o bwys ymhle. R. W. Parry. Dyna pam mai ym Mynwent Coetmor y mae'n gorwedd.