Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DDRAMA A'R FARDDONIAETH YN Y GANRIF DDIWETHAF Gan W. J. PHILLIPS Y PETH pwysicaf a ddigwyddodd i'r ddrama yn Lloegr ar ddech- rau'r ganrif oedd i'r llenorion ddarganfod gwir fawredd Shakes- peare a beirdd oes y Tuduriaid. Y gŵr a fu'n gyfrifol am hynny'n bennaf oedd Charles Lamb, canys yn 1808 ymddangosodd cyfrol yn cynnwys Specimens of English Dramatic Poets Who Lived about the time of Shakespeare, wedi eu dethol a'u golygu ganddo. Can- lyniad y darganfyddiad hwn oedd i amryw o feirdd Lloegr geisio troi eu dwylo at gyfansoddi dramâu yn null Shakespeare a'i gym- heiriaid. Cyfansoddodd Shelley y dramâu barddonol The Cenci a Prometheus Unbound, ac i'r un4osbarth y perthyn Otho the Great gan Keats, a Manfred a Marino Foliero gan Byron. Ceisiodd Lamb ddynwared dulliau Shakespeare yn y ddrama John Woodvil, ond pan geisiwyd ei llwyfannu ni fu'n llwyddiant o gwbl. Cydweithiodd Coleridge a Southey a chyfansoddasant The Fall of Robespìerre a oedd yr un mor aflwyddiannus. Wrth ddelio â gwaith Coleridge fel dramodydd, llwyddodd Allardyce Nicholl nid yn unig i ddangos ei brif wendidau ef, ond hefyd i ddangos prif wendidau'r cyfnod ym myd y ddrama. Coleridge had no idea as to what constituted a good play. He could estimate the value of poetry, and he could in his meta- physical manner analyse the character, but he had not the slightest conception of the problems that faced the Elizabethan dramatist. Mae'r un peth yn wir am y lleill, wrth gwrs, beirdd oeddent wrth reddf, ac o safbwynt barddoniaeth yr edrychent nid yn unig ar eu dramâu hwy eu hunain, ond hefyd ar ddramâu Shakespeare. Cofier hefyd i feirdd y cyfnod hwn deimlo dylanwad y mudiad rhamant- aidd, sef mudiad a osodai gryn bwyslais ar ryddid meddyliol yr unigolyn. O ganlyniad, gosodid cymaint o bwyslais yn eu dramâu ar eu credoau a'u hysmudiadau hwy eu hunain, nes anghofio mai prif orchwyl dramodydd da yw dyrchafu'r rhain a'u gosod ar lefel uwch a mwy cyffredinol. Canlyniad hyn o11, ac yn enwedig aflwydd- iant y mwyafrif o'r dramâu ar y llwyfan, oedd ymddangosiad math