Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pump ar hugain o gwestiynau. Peth afresymol oedd hynny, wrth gwrs, mewn drama, ac o ganlyniad mae'r darnau hyn wrth eu hadrodd yn mynd yn fyrdwn ar glust y gwrandawr. Dyma ran o'r araith y cyfeiriwyd ati: Llais Duw: A elwaist ti yr haul o'i wely erioed Pan fuasai wedi cysgu yn rhy hwyr? A fedri di y llwybr i gartre'r wawr? A deithi di y ffordd i drigfa'r nos? A ddygi di belydryn gwan o'r wawr Fel llusern yn dy law i gael un drem I fro marwolaeth? Gwelsom eisioes fod y gwendidau a nodwyd yn nodweddiadol nid yn unig o ddramâu cynnar y ganrif ddiwethaf yng Nghymru, ond hefyd o ddramâu Lloegr ar ddechrau'r ganrif, a chofier fod y ddrama Saesneg wedi bod yn datblygu am ddwy ganrif o leiaf cyn y cyfnod hwn. Ni fedrodd beirdd fel Shelley a Coleridge amgyffred gwir hanfodion y ddrama, ac o ganlyniad edrychasant arni fel math o farddoniaeth. Yng Nghymru hefyd bu'r cysylltiad agos rhwng y ddrama a'r farddoniaeth, ac amharodrwydd y beirdd i'w chydnabod fel math arbennig o gyfansoddiad, yn rhwystr mawr i'w thwf a'i datblygiad. Y Y Wers Sbelio, gan R. Williams Parry (Cerddi'r Gaeaf, t. 54), ceir y pennill hwn- Mae un yn Parry-Williams, Ond Williams-Parry'r llall. Eu taid ni hoffai heiffen, Ond gwylia rhag y gwall. Beth oedd y gwall y mae eisiau gwylied rhagddo? Y mae'r ateb direidus i'w gael yn ail linell y pennilI-rhoddi heiffen, neu gysyllt- nòd, rhwng y Williams a'r Parry oedd y gwall. Byddai ef ei hun yn sbelio'i enw heb heiffen, ond byddai ei gefnder, T. H. Parry- Williams, yn defnyddio heiffen yn ei enw hyd yn oed cyn ei urddo'n farchog.