Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BRAIN GAN ROBERT OWEN HEN adar castiog. cableddus, anghynnes, powld yw brain. Nid ydynt yn debyg i adar cyffredin. Y mae rhyw ddiefligrwydd yn perthyn iddynt sy'n peri i mi eu hofni a'u casáu. Dônt fel ysbryd- ion duon i bigo pryfed y cae dan ty, neu i grawcio'n aflafar ym mrigau'r gwydd, a bydd eu gweld a'u clywed yn ddigon i godi'r felan arnaf. Ac nid rhyw gasineb ac ofnadwyaeth a ddaeth imi'n gymharol ddiweddar yw hyn. Ac nid rhagfarn mohono chwaith. Y mae fel petai yn fy ngwaed, a theimlais oddi wrtho pan oeddwn yn grwtyn coesnoeth yn gwisgo pais. Byddai gweld brân wrth ymyl y ty yn peri imi weiddi nerth esgyrn fy mhen, ac ni theimlwn yn ddiogel oni ddeuai mam yno i chwifio'i ffedog a'u gyrru ar ffo. Ac er fy mod erbyn hyn yn eu hadnabod yn well, eto fe bery ias yr hen ofn brain ynof o hyd. Byddaf yn meddwl weithiau fod gan eu duwch rywbeth i'w wneud â'm hatgasedd tuag atynt. (Er fe glywais fy nhad yn sôn droeon am "Frân Wen", a gwn fy mod yn casáu honno hefyd). Ond bydd brân yn gyffredin mor ddu â thwllwch, a bydd twllwch yn codi arswyd arnaf bob amser. Cas beth gennyf yw mentro allan wedi nos pryd na bo lleuad uwchben. Bydd gweld post llidiart ar dro felly yn rhewi fy ngwaed. Y mae rhyw ddieithrwch yn perthyn i bob peth du, yn enwedig os bydd ychydig bellter oddi wrthych. Ond fel y sylwais yn barod, nid am eu bod yn ddu yn unig yr wyf yn casáu brain, canys cofiaf yn dda pan ddôi negro efo syrcus i'n pentre ni, mai cydymdeimlo ag ef y byddwn i, gan synio mor dda oedd hi arnaf yn hogyn croenwyn Cymraeg o'i gymharu ag ef. Rhaid mai rhywbeth yn natur brain sy'n achosi'r fath brotest ynof yn eu herbyn. Ni wn yn iawn beth yw. Byddaf yn meddwl weithiau mai digywilydd-dra yw'r enw arno. Ac eto, y mae Llwyd y To a'r Frongoch lawn mor ddigywilydd, a'r un mor farus, ond byddaf yn medru dygymod yn burion â'r adar bach. Y mae rhyw rinwedd yn perthyn i bob ehediad arall a ddaw ar ei sgawt i'n plwy. Llawen yw deunod Cog o lwyn, a medrus yw Gwennol ar ei hadain fain. Y mae gan y Robin ei frest borffor, a chan Lwyd y To ei ysbonc sydyn a'i big bach. I bob aderyn y rhoed dawn. Ond am y Frân,- dyn a'i helpo! — nid oes iddi na dawn na da. Gall grawcio pan fyddo'n dewis, ond y mae allan o diwn bob tro, ac nid yw ei chân onid rheg. Gall ehedeg, ond y mae'n blino'n syth. Gall gilio i ffwrdd, ond daw yn ôl o hyd.