Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GEIRIAU'R CHWAREL GAN ERNEST ROBERTS YCWESTIWN a roddwyd i mi i'w drafod oedd-Pa faint o eiriau neu ymadroddion yn perthyn i ddiwydiant a ddaeth yn rhan o iaith gyffredin yr ardal? A chan mai am ardal Bethesda, yn Sir Gaernarfon, y gwn i fwyaf, fe'm cyfyngaf fy hun i ymadroddion chwarelyddol yr ardal honno, ac efallai y bydd rhai ohonynt yn gyffredin i ardaloedd eraill yn y gogledd. A'r peth cyntaf i sylwi arno yw, cyn lleied sydd ohonynt. Gwir fod gan y chwarel ei geirfa ei hun­-ponc, caniad, bargan, ac yn eu plith rai hynod ddiddorol-megys yr enw ar un math o gyswllt (joint) mewn crossing ar y lein bach sy'n cludo llechi o'r chwarel i'r cei. Ceir dau fath o gyswlIt-un a thafod ganddo, a'r llall heb yr un. Hwnnw heb dafod, fe'i gelwir yn briodol iawn yn fudan. Gwir hefyd y clywir eco'r chwarel a'i* gwaith yn lleferydd ambell chwar- elwr unigol. Cofiaf glywed un aelod o Gyngor Lleol na fynnai i lythyr neilltuol fyned â dim rhagor o amser y Cyngor yn cynnig ei fod yn cael "ei yrru dros y domarì'. Cwrs grymusach o lawer na'i adael ar y bwrdd, neu'i daflu i'r fasged. Clywais hefyd am hen frawd a ddywedodd mewn seiat y daw yn ddiwedd mis ar bawb-dyna'r diwrnod y gelwir ar y chwarelwr i roi cyfrif o'i lafur am y pedair wythnos flaenorol. Ond hyd y sylwais i, ychydig iawn, iawn, o ddylanwad a gafodd y termau hyn a'u cyffelyb ar eirfa a dulliau llafar yr ardal yn gyffredinol. Ac os gofynnir pam y bu felly, dichon y gellir awgrymu dau reswm. Yn gyntaf, mai o chwith yn union y bu pethau-nid fod y chwarel wedi llunio geirfa'r ardal, ond fod yr ardal wedi pender- fynu iaith y chwarel. Ymhell cyn i Chwarel Cae Braich y Cafn ddod i feddiant y Penrhyn yr oedd nifer o fân chwareli ar lethrau'r Fronllwyd wedi eu hagor gan griwiau bychain o'r werin, bob yn ddau ac yn dri. A dug y rheini gyda hwynt grefft-eiriau Cymraeg a oedd eisoes yn perthyn i fywyd amaethyddol mân dyddynnod y dyffryn-clogwyn, piler, hollti, naddu, cŷn, morthwyl-geiriau crefft y saer, lawer ohonynt, ac yn rhan o iaith y werin cyn bod chwarel erioed. O'i gartref a'i dyddyn y cafodd y chwarelwr hefyd idiomau ei grefft. Y mae llu o'r rhain, ond bodlonaf ar un enghraifft. Os yw