Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dri-fe ddylech wybod ymlaen llaw beth a olyga hynny-sgwrs sych drybeilig. 'Roedd gennyf ryw un clwt arall i'w drin-ond mae'n bryd imi hel y gêr at ei gilydd-mae-hi ar fin canu. (Sgwrs a ddarlledwyd) Dyfyniad o Dyddiadur Danîel, yn Y Faner: Mi sylwais rai wythnosau'n ôl tra'n gwylio'r telediad o Don Giovanni Mozart pan agorwyd Tŷ Opera Cenedlaethol yr Almaen, ym Merlin, i'r sylwedydd ddweud rhywbeth fel hyn: "Er mai ar gyfer libretto yn yr Eidaleg y cyfansoddodd yr Awstriad Mozart yr opera hon, fe'i perfformir yma heno yn iaith briod y gynulleidfa, wrth gwrs, sef yr Almaeneg". Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed. Yr oedd William Paton Kerr, yr hanesydd, yn cydgerdded â myfyriwr drwy'r coed, a gofynnodd hwnnw iddo beth oedd rhyw aderyn a ehedodd heibio. "Cyffylog yw hwn'na", oedd yr ateb. "Wel, wir, nid dyna fy syniad i am gyffylog", ebe'r llanc. "Dyna syniad Duw am gyffylog", ebe'r Athro. Arlunydd ddylaswn i fod pe cawswn i chware teg. 'Does gen i gof at ddim ond at olygfeydd a gwynebau. Unwaith, ni fedrwn gofio dim ond golygfeydd.— O. M. Edwards, yn O'r Bala i Geneva.