Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEWID EMYN CLYWAIS droeon cyn hyn hanes John Morris-Jones yn newid emynau pan oedd yn Gadeirydd Pwyllgor Testun ac Iaith Llyfr Emynau'r Methodistiaid a'r Wesleaid (1927), a chefais yr argraff ei fod braidd yn dra-awdurdodol yn mynnu cywiro'r iaith. Clywais fod arno eisiau newid llinell Eifion Wyn, "Efengyl tangnefedd. ehed dros y byd", yn "eheda drwy'r byd", am fod y gair ehed yn anghywir; a bod Eifion Wyn o'r diwedd wedi cytuno, yn groes i'w ewyllys, i newid y llinell yn "O! rhed dros y byd". Ond, mewn ysgrif gan W. Llewelyn Jones yn Yr Eurgrawn fis Ionawr eleni, ceir copi o lythyr a anfonodd Syr John at Eifion Wyn. 23 Medi 1926, ac yn hwnnw fe welir mor awyddus ac mor ofalus ydoedd i barchu teimladau awduron yr emynau. Dyma a ddywed- odd am Emyn 724: Y mae eich sylw mai eheda sy'n anfoddhaol gennych yn newydd a syn i mi­ni ddaeth hynny i'm meddwl o gwbl. Nid mater o feirniadu'r emyn sydd yma, ond o gael yr holl emynau hyd y mae'n bosibl yn iaith y Beibl, fel y bo dau lyfr yr addoliad mor gyson â'i gilydd ag y bo modd yn hyn o beth. Ni cheir ehed yn y Beibl, eithr eheda: Deut. 4-17; 28-49; Job 5-7; 9-26; 39-26; Diar. 23-5; Hos. 9-11. Os gwell gennych y ffurf ffug yn wyneb hyn, fe adferir y llinell yn ôl yr addewid a rois i chwi; ond os gwneir hynny, hwnnw fydd yr unig ehed yn y llyfr, ac i'm bryd i byddai hynny'n dipyn o resyn Y mae'n amlwg nad oedd Eifion Wyn yn hoffi swn y gair eheda, a dewisodd yr ymadrodd "O! rhed" yn ei Ie. Yr oedd y ddadl a ddefnyddiodd Syr John i argyhoeddi Eifion Wyn, er hynny, yn un anfwriadol annheg. Trydydd person y modd mynegol, he flies, ydyw eheda ymhob un o'r adnodau a ddyfyn- nodd, ond ail berson y modd gorchmynnol, fly thou, oedd ehed Eifion Wyn. Yr un gair sy'n cyfleu'r ddau ystyr yn y rhan fwyaf o ferfau Cymraeg, mi wn, ond nid ymhob berf. Cymharer fe ddeil a dal di; feâa. dos di; fe ŵyl ac wyla di. Nid dadlau yr wyf fod y ffurf ehed yn gywir-y mae'n ddiamau fod yr Athro'n ddigon saff o'i ffeithiau— ond yr oedd twll yn ei ymresymiad. Pob clod iddo, fodd bynnag, am ei gwrteisi at awdur yr emyn.