Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AR Y "PRINCE JA JA" Gan J. GLYN DAVIES "Mind your port helm", udgornai llais cras o tu fewn i hansom oedd yn gwibio drwy adwy y dockwall, gan chwildroi yn sydyn i osgoi rhyw hen drol fawr drom oedd yn dyfod yn union ar draws y cerbyd ysgafn. Cyrhaeddodd y llais ddiben ei genad-a chwaneg na hyny hefyd-achos bu dim ond dim i ffenest yr hansom gracio, ac mi rodd canu yn fy nghlustiau am yn hir o herwydd y trwst anferth. Aeth y cerbyd dros y swingbridge ac alongside hen stemar fechan ddu, rhyw dri chan tunell, a disgynodd y perganiedydd Capten Thomas, ond gwaith anodd i mi a'r hwn eisteddai wrth fy ochr i gael nerth i sythu ar ol bod yn cario Capten T ar ein gliniau am dros awr. Disgynais or bron ar fy ngliniau, a chyd a mod i wedi cychwyn, a llond fy nwylo o draed moch, a rhyw daclau ereill, paglais ar y rhaff a ddaliai'r llong wrth y cei, ac mi ges shegfa a barodd imi wylltio a thaflu y pethau i'w crogi ar ddec y stemar. Gan gydiad mewn stanchion rhoddais naid ar y dec, a ffwrdd a mi i'r saloon-ciaban. Chwilotais o gwmpas i edrach gawn i rywbeth extra i lapio am fy ngwddw a thoc dyma dri chapten i mewn-Capten y llong, Griff Williams, y chap ffeindia hwyliodd long erioed, a'n dau gyd-deithydd. Wedi ini gael ronyn o sgwrs am dan yr hen sardines a'r canaries, dyma Griff yn galw arna i, "Wel Mr Pilot Blawd Lli, rhaid i chi ddwad ar y bridge rwan i ni gael cychwyn. Ydach ch'n reit siwr eich bod yn gynes rwan’ ’­gan dynu cadach wlanen gynes a rhoi clove hitch ynddi ar fy ngwddw. Yr oedd y noson yn braf iawn, a thawch deneu, ac heb fod yn rhyw oer iawn. Yr oedd yn dop llanw, a gwelid rhes o agerlongau yn myned o'r dec i'r afon tipyn o'n blaenau ni. Mor hyfryd oedd yr olwg arnynt, a'u rhesi o oleuon crynion yn disglaerio hyd wyneb y dwr. Toc dyna lais o'r cei, "Prince Ja la there!" Aye, Aye, meddai Griff, a dyma fo yn cydiad yn y tele- graph ac yn ei gorddi yn ol ac ymlaen. Estynai at y laniard a dynai swn or corn canu, ac yn ebrwydd dyna wynt ac angar ac ochain di-lais, ac yn sydyn, fel tae'r peth a thysen boeth yn ei geg, yn canu ei gorn gwddw haearn nes y buasech yn tybied fod y Campania yn mynd allan. "Ler go aft", gwaeddai Griff, ac ar yr un gwynt, "heave away forred". A dyna'r injan bwmpio yn dechrau cadw sŵn ofnadwy.