Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS GAN C. E. THOMAS T DDECHRAU'R Nodiadau hyn, y mae'n bleser cael cyhoeddi i'r I Rhanbarth yn ein Cyfarfod Blynyddol diwaethaf ddewis David Thomas, Golygydd Lleufer, ac Is-Gadeirydd y Rhanbarth er 1946, yn Llywydd cyntaf y WEA yng Ngogledd Cymru. Nid oes angen canu ei glodydd, oherwydd fe wyr y wlad amdano. Mae'n anrhyd- edd i'r WEA ei gael yn Llywydd, fel y mae hi hefyd inni gael Mrs Mary Silyn Roberts yn Is-Lywydd cyntaf y Rhanbarth. Gwnaed y ddau benodiad yr un dydd. Anrhydeddwn ein cymwynaswyr a'r arloeswyr. I. D. Harry ydyw Is-Gadeirydd newydd y Rhanbarth, a Mrs C. J. Kenyon-Jones ydyw'r Dirprwy Drysorydd. Cyfnod prysur cychwyn tymor newydd fu'r tri mis cyn imi sgrifennu'r nodiadau hyn. Yç.oeddym hefyd yn cau pen mwdwl y flwyddyn flaenorol. Y flwyddyn newydd yn sathru ar sodlau'r hen flwyddyn megis, ac yn ei hanfon i ebargofiant. Ceisiadau am o leiaf ddwsin o ddosbarthiadau newydd wedi dod i law ac yn eu mysg cais am bum dosbarth, o bum sir wahanol, i weithwyr suful y Bwrdd Cymorth Cenedlaethol. Dyma ddatblygiad newydd, ac fe fydd pedwar os nad y pump wedi dechrau eu cyrsiau erbyn y daw'r Nodiadau hyn allan. Y mae gennym ddosbarth hefyd i aelodau'r Heddlu yn Ninbych. Hawdd iawn fyddai cynyddu rhif ein dosbarthiadau petai'r arian gennym i dalu amdanynt. Yn ein Cyfarfod Blynyddol, a gynhaliwyd ym Mangor, Hydref 28, daeth cynulliad rhagorol ynghyd, a chafwyd trafodaeth lawn ar ein sefyllfa ariannol. Wedi cael blwyddyn dda o waith trueni oedd gorfod i'r Dirprwy-Drysorydd adrodd fod y costau wedi bod dros í900 yn fwy na'r derbyniadau. Ni ellir cario ymlaen fel hyn, meddai, ac y mae'n rhaid i'r mudiad wynebu'r ffakh na ellir cadw ymlaen heb chwyddo'r incwm. Mae gan yr Awdurdodau Addysg a'r Weinyddiaeth Addysg Ie i chwanegu eu grantiau i'r WEA, oher- wydd gwneud eu gwaith hwynt a wna'r WEA ac arbed cannoedd o bunnoedd bob blwyddyn iddynt. Hyderwn y codant eu grantiau yn fuan, ac yn y cyfamser rhaid i'r mudiad ddyblu ei egnïon i allu cyfrannu rhagor i'r Rhanbarth hyd nes gellir perswadio'r Awdur- dodau i gyfrannu mwy. Daw adroddiadau d amryw ganghennau a dosbarthiadau eu bod yn brysur yn codi arian y cwota. Cangen Bangor wedi cael cyngerdd llwyddiannus iawn eto; Blaenau Ffestiniog ymhell ar. y blaen i'r