Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OR SWYDDFA YNG NGHAERDYDD GAN D. T. GUY Y MAE'R tymor presennol wedi dechrau'n addawol iawn: bydd rhaglen y dosbarthiadau bellach wedi ei lansho a chafodd y Darlithiau Cyhoeddus a'r Ysgolion Undydd a drefnwyd gan ein Canghennau gynulliadau da hyd yn hyn. Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol y Rhanbarth eleni yn Aber- tawe, Ddydd Sadwrn, Hydref 21, a dyma'r Gynhadledd fwyaf llewyrchus a gawsom ers blynyddoedd. Yr oedd Ystafell fawr y YMCA yn llawn; cafwyd cynrychiolaeth dda o'r canghennau ac o'r cymdeithasau cysylltiedig ac o'r aelodau unigol. Ymhlith prif bwyntiau'r cyfarfod yr oedd trafodaeth ragorol ar yr Adroddiad Blynyddol, ac ar Benderfyniad oddi wrth Gangen Aberafan yn croesawu sefydlu canolfannau Pobl mewn Oed gan yr Awdurdodau Addysg. Y teimlad cyffredin oedd mai mantais fyddai'r datblygiad newydd hwn, ond i'r WEA beidio â cholli ei hunaniaeth, ac i'r Awdurdodau Addysg a'r WEA gydweithredu â'i gilydd. Ail-etholwyd swyddogion y Rhanbarth heb wrthwynebiad, sef Clive Wheeler yn Gadeirydd, William King yn Is-Gadeirydd, a Brinley Thomas yn Drysorydd. Hefyd, ein dau gynrychiolydd ar y Pwyllgor Canolog, Len Williams, Castell Nedd, a Harry Evans, Llanelli. Ym Mhorth-cawl, Hydref 28-29, y cynhaliwyd un o'r cynad- leddau pwysicaf yn Neheudir Cymru ers blynyddoedd. Ar wahân i'r Cadeirydd, Olive Wheeler, a wahoddwyd yn arbennig, yr oedd pob un o'r 33 a oedd yno yn arweinydd rhyw Undeb Llafur neu'í gilydd yn Ne Cymru. "Dyfodol Addysg Undebau Llafur" oedd pwnc y drafodaeth, a'r prif ddarlithwyr Dennis Winnard, Ysgrifen- nydd Adran Addysg y TUC, a Reg Jefferies, Dirprwy-Ysgrifennydd Cyffredinol y WEA. Ymdriniodd Mr Winnard â Chynllun newydd y TUC ar gyfer trefnu a thalu costau addysg yr Undebau Llafur. Y mae'r TUC am sefydlu Corff Addysg Genedlaethol newydd, a phan fydd hwnnw mewn bod (ymhen rhyw 18 mis eto), fe ddaw'r NCLC a'r WETUC i ben. Gall effeithiau'r penderfyniad hwn gan y TUC gyrraedd ymhell iawn yn Ne Cymru. O'm rhan fy hun, croesawaf ef, ac ystyriaf ef y cam pwysicaf a gymerodd mudiad yr undebau llafur erioed ym myd addysg. Ni ellir dweud ar unwaith beth fydd ffurf y trefniadau rhanbarthol yn y gwahanol rannau o'r wlad. Y mae'n amlwg y bydd llawer ystyriaeth ddyrys i'w chymryd "r cyfrif cyn penderfynu'n derfynol.