Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trefnwyd i gynnal tair Ysgol Fwrw Sul i fyfyrwyr yr Undebau Llafur ym Mhorth-cawl ddechrau'r tymor, sef un ar "Cyfnewid- iadau yn Economi y Byd", gan William Gregory, "Byw yn y Presennol", gan T. W. Thomas, a "Yr ETU a'r TUC", gan V. Hampson Jones. Y mae'r tri darlithiwr yn aelodau llawn o staff Adrannau Allanol Colegau Caerdydd ac Abertawe. Bydd aelodau'r dosbarthiadau hyn yn gorfod cyflwyno gwaith ysgrifenedig i'w Hathrawon, yn wahanol i aelodau'r Ysgolion Bwrw Sul. Ym Maenordy Cilfrwch (Kilvrough Manor), Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Tachwedd 11-12, bydd deugain o Undebwyr Llafur ifainc o dan 23 mlwydd oed yn mynychu cwrs a drefnwyd ar y testun, "Ni chawsoch erioed Well Byd". Buasai llawer yn chwaneg wedi dyfod petasai digon o Ysgoloriaethau ar eu cyfer. Daeth y Farchnad Gyffredin yn Ewrop yn bwnc trafodaeth eidd- gar a chyffredinol yn Ne Cymru. Cynhaliwyd nifer o Ysgolion Undydd llwyddiannus iawn yng Nghwmbrân, Casnewydd, Maes- teg, Aberafan, a lleoedd eraill, i wyntyllio'r pwnc amserol a thra phwysig hwn. Gwaith anodd yw cadw mewn cyffyrddiad agos â phob un o'r lliaws gweithgareddau sydd ar droed yn y Rhanbarth hwn ar hyn o bryd, ac y mae'n amhosibl i Ysgrifennydd y Rhanbarth fod ymhob un o'r Ysgolion Undydd i "ddweud gair neu ddau". Gweithwyr gwirfoddol y WEA yn y gwahanol ganolfannau fydd yn arolygu'r ysgolion yn y lleoedd hyn, a charwn ddweud "diolch o galon" i bob un ohonynt. Cymru fy Ngwlad, gan Gerallt C. Jones. Llyfrau'r Dryw. 7/6. Llyfr defnyddiol iawn yw hwn, llyfr o wobrwywyd yn yr Eistedd- fod Genedlaethol, 1958; gallaf ddychmygu plentyn yn cael llawer iawn o bleser ynddo, heblaw yr hyn a ddysg ohono. Ceir penodau byrion, a gwersi a chwestiynau, ar lawer iawn o agweddau ar fywyd Cymru-ei gweithfeydd a'i thir, gwaith dur Margam a phurfa olew Llandarsi, chwarelau a chyryglau, hendref a hafod a choedwigoedd, enwogion Cymru o Illtud Saht a John Penri hyd at Joseph Parry a Hedd Wyn, ei barddoniaeth a'i heisteddfodau a'i henwau Ueoedd. A gwaith ysgrifennu ar y cwbl. Ardderchog. Gwyn fyd na bawn yn blentyn eto! D.T.