Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDD 777 Dramaydd Cyfoes, gan J. Ellis Williams. Gwasg Gee. 12/6. Y peth cyntaf i'w ddweud am y llyfr hwn, 0 leiaf wrth geisio'i adolygu yn Lleufer, yw fod yr awdur wedi gwneud cymwynas arben- nig iawn â'n dosbarthiadau llên a drama. Dyma lyfr sy'n trafod yn olau ac ar yr un pryd yn dra difyr waith y ddau ddramodydd pwysicaf sy'n sgrifennu heddiw yn Gymraeg a gwaith trydydd gŵr sydd, ym marn ystyriol yr awdur, ar y ffordd i gymryd ei le'n deilwng ochr yn ochr â hwy. Wrth ymdrin fel hyn â'r cwbl bron o gynnyrch dramayddol Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd Edwards hyd yma, y mae John Ellis Williams yn cynnig rhagarweiniad gwerthfawr a hwylus i holl faes y ddrama yng Nghymru heddiw, ac felly i gyfran helaeth, efallai'r gyfran bwysicaf, o'n llên gyfoes. Bydd y gyfrol hon yn sicr yn anhepgor ar gyfer bocs llyfrau pob dosbarth drama a phob dosbarth ar lenyddiaeth gyfoes hefyd. Ond 'rwy'n gobeithio na fydd neb o ddarllenwyr Lleufer yn bodloni'n unig ar sicrhau'r llyfr hwn i focs y dosbarth. Dylai hwn fod ar silff pawb sy'n ymhel â'r ddrama, yn gynhyrchwyr, yn actorion, ac yn wrandawyr, a phawb sy'n ymddiddori mewn llen- yddiaeth hefyd. Yn un peth; dyma'r unig lyfr ar ei bwnc. Mwy na hynny, y mae Mr Ellis Williams yn trin y pwnc yn hynod ddeallus, ac eto'n gwbl syml a dirodres. Nid yw am hawlio i'w waith yr enw, beimiadaeth lenyddol. "Adolygu'r dramâu a wnaf, nid eu beirniadu", medd ef yn wylaidd; "ni feddaf na'r wybodaeth na'r wyneb i feirniadu fy ngwell". Y mae'n or-wylaidd, oherwydd dyma lyfr sy'n feirniadaeth yn yr ystyr orau, yn feirniadaeth werthfawr- ogol, adeiladol gan wr â phrofiad ymarferol helaeth ganddo o'r theatr ar waith tri chydlafurwr y mae'n eu hedmygu'n fawr heb gau ei lygaid i'w gwendidau. Rhydd ei brofiad gydbwysedd i'w farn ar dechneg a ieithwedd y dramâu, ond y mae ei ddadansoddiad o'r themâu hefyd yn deg ac yn aml yn dreiddgar. Yn fy marn i, rhoes Mr Ellis Williams inni un o'r llyfrau gorau o feirniadaeth a gawsom ers tro. Cynllun yr awdur yw cymryd gweithiau pob un o'r tri dramaydd yn eu trefn amseryddol, a thrwy hynny cawn ddilyn twf eu crefft a'u dawn. 'Dyw Mr Ellis Williams byth yn anghófio nad rhywbeth i'w ddarllen mewn llyfr yw drama ond gwaith i'w wylio ar Iwyfan, oherwydd ar Iwyfan theatr yn unig y daw'r ddrama yn gyflawn fyw