Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn enwedig ei ddrama ddiweddaraf Y Gŵr o Wlad US, nad yw eto wedi ei pherfformio na'i chyhoeddi, ond sy'n dangos fod gan yr awdur hwn rywbeth pwysig i'w ddweud a'i fod ar y ffordd bellach i feistroli'r grefft o fynegi ei neges yn effeithiol. Ar lawer cyfrif, y mae Huw Lloyd Edwards yn nes at ei gynulleidfa heddiw na'r ddau ddramaydd arall, ac y mae ei ddawn ar gynnydd. Hawdd fuasai ymhelaethu ar lu o bwyntiau diddorol a godir gan drafodaeth John Ellis Williams, ond rhaid ymatal a bodloni ar ei longyfarch ar lyfr gwirioneddol werthfawr. Carwn bwyso arno i wneud cymwynas arall â ni'n ddiymdroi trwy sgrifennu'r llyfr ar hanes y ddrama y mae'n sôn amdano yn ei ragair. ALUN LLYWELYN-WILLIAMS Fy Hen Lyfr Cownt, gan Rhiannon Davies Jones. Gwasg Aber- ystwyth. 8/6. Dyma lyfr a roddodd fwy o fwynhad imi na'r un a ddarllenais ers talwm. Diau i lawer fel finnau gynefino â'r sôn am Ann Griflöths, a derbyn y chwyldro eneidiol a ddigwyddodd iddi fel peth cyff- redin i'w chyfnod, a'r pangfeydd o euogrwydd un funud, ac o ecstasi'r funud nesaf, fel ymddygiad niwrotig merch â hadau afiechyd creulon yn ei chyfansoddiad. Eithr chwalodd y llyfr hwn y dallineb hwnnw. Bydd Ann •Griffiths yn berson ac yn rhyfeddod i mi byth mwy. Nid Ann y llythyrau a geir yma'n hollol, ond geneth fwy naturiol a hoffus-un sy'n trysori a chroniclo pob gair canmoliaethus a ddywedir am ei gwedd a'i thalent; un a ymhyfryda mewn blows cambric gwyn a ruban piws; un a all deimlo'n eiddigeddus wrth golli carwr a wrthododd; ac un a all gasáu'n dra effeithiol. Dyma wisgo cig a gwaed am esgyrn sych y llythyrau. Disgwyliwn er hynny am fwy o awgrym o'r chwilio dyfal y mae'n rhaid ei bod yn ei wneud ar yr ysgrythyrau. Dirgelwch i mi yw paham fod cymaint o briodoli gor-gnawdol- rwydd i Ann Griffiths. Pan gyhudda'i hun o bechodau mawr, ni wna ond siarad iaith yr Associat. Rhamantrwydd ac nid nwyd ysol sydd yn ei hoffter o Ganiadau Solomon, ac yn ei defnydd o briod- oleddau cariad a phriodas. I ferch o'i hanian hi-heb fawr llenydd- iaeth at ei llaw ond ambell Faled, Llyfr Baxter a'r Beibl-oni fuasai'r Caniadau megis ffynnon o ddwfr mewn tir sychedig iddi? Ynddynt darganfu yr hyn a gâi merched o gyfleusterau gwahanol ym marddoniaeth Wordsworth, Chwedlau Marchogion Arthur, yr