Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Arabian Nights, a'u tebyg. Naturiol iddi felly oedd dysgu'r brawdd- egau hardd, a'u defnyddio pan ddarganfu Wrthrych Teilwng o'i bryd. Ryw unwaith neu ddwy y teimlais amheuaeth ynghylch addas- rwydd brawddeg neu syniad. Dyna Saesneg yr offeiriad "eternal controversy Welsh Garrick refinement and elegance debauchery and loose living", ynghyd â'r adferf "sylywetaidd". Amheuaf a allai Mrs Owen y Sais ei hun gyrraedd i'r lefel yma, heb sôn am ei disgybl, "nad oedd yn deall ond ychydig Saesonaeg". Sonnir hefyd am ddolydd "Wyn, Rug", a hynny cyn 1803; dolydd y Vychaniaid oeddynt hyd 1859. Fy sail gadarnaf tros deimlo fod yma waith gwych yw fy mod wrth fyfyrio ar yr emynyddes yn defn- yddio cynnwys y Llyfr Cownt hwn yn ddadl tros wahanol bethau yn ei hanes a'i chymeriad. Gwnaeth yr awdur ymchwil mor drylwyr i'r cefndir, nes bod yn anodd sylweddoli nad yw'r dyddiadur hwn yn ddilys. Carwn innau, fel y crybwyllodd eraill, wybod mwy am fab y Ceunant. Methaf yn lân â derbyn ei fod yn gymaint o ddyn gwellt ag a awgrymir. Sut un oedd-o, tybed, cyn, ac ar ôl, y briodas a arweiniodd i'w angau? A phaham na chladdwyd ef yn yr un bedd â'i wraig? ELENA PUW MORGAN Gwassanaeth Meir, wedi'i olygu gan Brynley F. Roberts. Gwasg y Brifysgol. 21/ Llyfr ysgolheigaidd, ac ynddo ymdriniaeth fanwl a llawn ar un o gyfieithiadau Cymraeg pwysicaf y 15fed ganrif. Gallesid disgwyl y trylwyredd hwn o wybod ei gyflwyno am radd M.A. Prifysgol Cymru. Nid yw'r testun ei hun ond 41 tudalen, ond y mae'r ymdrin- iaeth arno yn 81 tudalen; ac ar ben hyn ceir 43 tudalen o Nodiadau a 16 tudalen o Eirfa. Da o beth oedd cyhoeddi'r gyfrol werthfawr hon, a chael yn Gymraeg oleuni llawnach nag a gafwyd o'r blaen ar lyfr defosiwn a ddefnyddid nid yn unig mewn gwasanaethau cyhoeddus ond hefyd ar aelwydydd Cymry diwylliedig a duwiolfrydig y cyfnod hwnnw. Caed amryw o gyfeiriadau ato a rhai dyfyniadau ohono gan y rhai a fu wrth y gwaith o ysgrifennu hanes y Beibl Cymraeg, a thrafod y tir a fraenarwyd cyn i'r Beibl cyflawn ymddangos. Bellach, dyma ymdriniaeth lawn arno. Cyfieithiad yw "Gwassanaeth Meir" o Officium Parvum Beatae Virginis Mariae, a dyma'r unig enghraifft a feddwn o gyfieithu un o Wasanaethau'r Eglwys i Gymraeg Canol. Ceir ynddo'r fersiwn