Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymraeg cynharaf o rai o'r Salmau ac o weddiau litwrgaidd. Yn wahanol i'r cyfieithiadau Saesneg, y mae'r cyfieithiad Cymraeg hwn bron i gyd yn gyfieithiad mydryddol-rhannau ohono'n ganu caeth a rhannau yn ganu rhydd. Dengys hwn fod canu rhydd yn ogystal â chanu caeth yn nhraddodiad y Gogynfeirdd, ac mai i'w hysgol hwy y mae inni ddiolch am gyfoethogi bywyd ysbrydol Cymru'r 15fed ganrif. Gan ei fod yn drosiad mydryddol, ac yn gaeth i reolau cerdd dafod, nid yw yn dilyn y Lladin gwreiddiol mor slafaidd â'r cyfieithiadau Saesneg, ond y mae llawer mwy o gamp arno. Tybed a oedd litwrgi fydryddol yn fwy cydnaws ag anianawd y Cymro? Ni phrofir yn bendant, ond gwneir mwy nag awgrym, mai Dafydd Ddu o Hiraddug yw'r awdur. Cyfnod gweddol dywyll yn hanes crefydd Cymru oedd y 15fed ganrif, a'r dogfennau hanesyddol yn brin. Dyma bellach ragor o oleuni arno; ac amheuthun ei gael gan wr sy'n hollol gyfarwydd a'i bwnc. Y mae'r rhagymadrodd nid yn unig yn ddiddorol ond hefyd yn gyfraniad pwysig at ysgolheictod Cymraeg. Lleisiau Doe a Heddiw, gan Robert Ellis. Llyfrau'r Dryw. 9/6. Cydymaith neu olynydd Doniau a Daniwyd, gan yr un awdur, yw'r gyfrol hon, a cheir ynddi gipdrem ddadansoddol ar nodwedd- ion, gallu a dawn, rhai.o ddoniau amlwg pulpud Cymru. Ar ddi- wedd y gyfrol ceir nodiadau bỳwgraffyddol ar bob un-ac y mae dau ddwsin ohonynt i gyd, a rhai yn fyw heddiw. Eddyf yr awdur mai ei linyn mesur ef ei hun a barodd iddo ddewis y rhai hyn, yn hytrach na'u bod o'u hysgwyddau yn uwch nag eraill y gallesid bod wedi eu cynnwys yn y gyfrol. Nid arhosodd yr awdur yn ddigon hir yng nghwmni yr un o'i arwyr i roi inni ddarlun llawn ohonynt, ond llwyddodd i grisialu cynneddf neu nodwedd neu ddawn yn hanes pob un nes gadael eu teithi cynhenid yn amlwg a chofiadwy. Y mae yn eu mysg Esgobion ac Offeiriaid a Gweinidogion gwahanol gyrff crefyddol, ac yn hynny amcanodd yr awdur fod yn eangfrydig a diduedd-er iddo ddweud yn ei Ragymadrodd y gallasai rhywun o blith "y defaid eraill" ddewis yn wahanol. Y mae gan yr awdur ei arddull ei hun-ac er ei bod ar brydiau yn ebychiadol deuir i ymarfer â hi, a'i hoffi yn wir, ar waethaf ambell ystrydeb bregethwrol y gellid ei hepgor. Gan fod i'r "hoelion wyth" hyn eu hedmygwyr a'u disgyblion, diau y bydd i'r gyfrol hon gael cylchrediad eang ác y cydnabyddir Lleisiau Doe a Heddiw yn olynydd teilwng i Doniau a Daniwyd. G. J. ROBERTS