Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crwydro Dwyrain Dinbych, gan Frank Price Jones. Cyfres Crwydro Cymru. Llyfrau'r Dryw. 18/ 'Roeddwn yn digwydd mynd heibio i babell y WEA yn Eistedd- fod y Rhos eleni, ac yn hollol ddirybudd cael fy hun yn rhyfygus gytuno â Golygydd Lleufer i geisio sgrifennu'r adolygiad hwn. Gan nad wyf na llenor na hanesydd na bardd, ni feiddiaf gynnig dim ond ymateb dyn tra chyffredin i lyfr crwydro am ardaloedd ei febyd. Felly, ni raid i Frank Price Jones boeni gormod os ymddengys fy sylwadau'n fwy mympwyol na'r adolygiadau graenus a disgybledig a haedda ac a gaiff yn y man. 'Roedd trafod y llyfr hwn ar y radio ychydig yn ôl, ac mi synnais glywed gwr yn anghytuno â'r awdur, ac yn dweud "nad damwain yw Sir Ddinbych". Teimlwn mai rhyw dric i greu ffug-ddadl oedd yma, yn hytrach na chais i gyfleu natur ac ansawdd y crwydro. Yn ei Ragair dengys Mr Jones yn glir sut y daeth Sir Ddinbych i fod yn 1536-43, ac fel y cysylltwyd rhannau o'r Berfeddwlad â rhan o'r hen Bowys Fadog i greu uned llywodraeth leol. Â ymlaen i ddangos na lwyddodd y ddwy ran i asio'n llwyr i'w gilydd o'r pryd hwnnw hyd heddiw-ffaith amlwg i'r sawl sy'n byw yn y sir. Ni allaf feddwl am well eglurhad na'r eiddo'r awdur, mai creadig- aeth ddamweiniol ydoedd, a bod gwahaniaethau daearyddol, gal- wedigaethol a diwydiannol, yn ogystal â Chymreictod neu Seisnig- rwydd y gwahanol ardaloedd wedi peri parhad y "ddeuoliaeth annileadwy". Wrth grwydro dwyrain y sir, â'r awdur â ni i ddyffrynnoedd Ceiriog a Llangollen, i "ardd y pyllau glo" Hooson, sef ardaloedd y Mwynglawdd, Brymbo, Broughton, Rhosllannerchrugog, Pen-y- cae, Cefn a Rhiwabon, wedyn i fwrdeisdref Wrecsam, a'r ffin rhwng Sir Ddinbych a Maelor Saesneg a Lloegr, ac yn olaf i Iâl, lle cyd- nebydd ei fod yn teimlo'n hollol gartrefol. Synhwyrais innau fod Cymreictod rhagorol Mr Jones yn llyffethair iddo yn ardaloedd y ffin-gwlad estron, Seisneigaidd ei naws, na weddai'n arbennig i Gymro go-iawn. Man cychwyn y crwydro yw'r A5, dros y ffin o Loegr yn ymyl Y Waun (Chirk), ac oddi yno cawn ymdroi yn hen gymydau Nan- heudwy, Cynllaith a Mochnant, yna i Ddyffryn Ceiriog. Ceir hanes cylch y Waun, y castell (neu gestyll), sut y bu i luoedd Harri'r Ail geisio dysgu gwers i Owain Gwynedd yn 1165, ac i lawogydd di-baid yr haf hwnnw, yn hytrach na saethau'r Cymry, eu troi yn eu holau. A'r munud nesaf darllenwn am fedd gwr a laddwyd yng nglofa'r