Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Olrheinir hanes bwrdeisdref Wrecsam hyd heddiw, a chyfraniad pwysig y cefndir Cymraeg i fywyd a chymdeithas y dref. Nid magwrfa fu'r dref, medd yr awdur, ond eithaf maes llafur i rai o gewri'r genedl o gyfnod Morgan Llwyd hyd heddiw. Pwysleisir hefyd fentr a gweithgarwch pobl Wrecsam ym myd busnes. I mi yr oedd y cyfeiriad at I. D. Hooson yn ei swyddfa yn apelio llawer mwy na datblygiad materol y dref, neu hyd yn oed hanes mudiadau crefyddol y cyleh-ond mympwy bersonol yw hynny, wrth gwrs. Wedi cyrraedd Eglwys Gresffordd, dyfynna'r awdur o dablet ar y wal yn coffáu dymuniad gwr a adawodd dair punt i'r pregethwr a draddodai bregeth angladd drosto- "that he would not there in his pulpit prayse nor yet dis- prayse the gonne life of the dead corps before him as commonly most devines do most grossly, too much of the one or other, nor yet showe his witt in giving there a wipe concerning this my request, but follow his text to the profit of his hearers, soe end and interr me". Yr un hen gân sydd o hyd am ddirywiad yr iaith Gymraeg drwy'r ardaloedd, a hyd yn oed yn Iâl dyna yw'r hanes. Yn y wlad uchel, medd Mr Jones, y mae noddfa olaf yr hen werthoedd a'r hen arferion, ond erbyn hyn daeth radio a theledydd i orseddu dieith- rwch yn yr hen geginau lle gynt y bu "pawb a'i bennill yn ei gwrs". Trueni meddwl am gymdeithas yn marw, ac ychydig a wnaf i a'm tebyg i wella'r sefyllfa. Cefais flas neilltuol ar y bennod olaf, ac yn enwedig felly gan fod awdur Gŵr Pen y Bryn gyda ni am ran helaeth o'r amser. Priodol yw cael ein hatgoffa am gyfraniad John Parry, Richard Morgan a'u tebyg dros iawn a chymdeithas. Cynnwys y llyfr ddarluniau deniadol a mapiau addas iawn. Mae'n ffrwyth llafur caled, ac yn bleser ei ddarllen drwyddo. Prynwch ef ar bob cyfrif. ELWYN HUGHES Awen Meirion ac Awen Aberteifi. Llyfrau'r Dryw. 8/6 yr un. Wele ddwy gyfrol yn rhagor yn y gyfres "Barddoniaeth y Sir- oedd", ac fel y gallesid disgwyl ceir amrywiaeth mawr iawn yn y deunydd. Gobeithio nad oes angen pregethu erbyn hyn yr heresi o rannu'r beirdd yn feirdd gwlad ac yn feirdd coleg, na rhyw siarad yn nawddogol chwaith am y werin, a phethau felly. Yn wir, un o nodweddion y gyfres hon o gynnyrch ein beirdd cyfoes yw y ceir beirdd a fu mewn coleg a phrifysgol ochr yn ochr â beirdd na chawsant eu coethi na'u difetha chwaith yn y sefydliadau hynny,