Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tri cheffyl gwedd â'u taclau'n tincian yn yr hwyr brynhawn; Eu gyrrwr wysg ei ochr, ei draed Â'r sgidiau mawr, fu'n cerdded pridd, Yn hongian mewn esmwythdra wedi gwaith; Tri cheffyl gwedd, mawreddog gewri'r maes, Yn troi tua'r stabl rhwng dau olau bach, Yn weision ufudd gwas; ei chwiban ef Sy'n bwrw i'r awel fain nodau hirwyntog, lleddf Hen emyn. Deuddeg pedol fawr yn taro wyneb gallt yn gyson braf A'u cloncio linc-di-Ionc-gwreichion o'u traed 'Yrr wres i galon dyn Wrth wylio sblander corff y cewri dof. Ond tybed nad oes le i dynhau'r mynegiant eto? "Load every rift of your subject with ore" oedd cyngor Keats i'w gyfoeswr Shelley. Dilynodd Dylan Thomas y cyngor hwnnw, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn o'r gerdd Fern Hill, sy'n disgrifio golygfa nid annhebyg i'r un a geir yng ngerdd Rhiannon Davies, ond fod Thomas yn disgrifio'r olygfa yn y bore: And then to awake, and the farm, like a wonder white With the dew, come back, the cock on his shoulder: it was all Shining, it was Adam and maiden, The sky gathered again And the sun grew round that very day. So it must have been after the birth of the simple light In the first, spinning place, the spellbound horses walking warm Out of the whinnying green stable On to the fields of praise. DERWYN JONES Helynt y 'Beca: The Rebecca Riots, gan V. Eirwen Davies. Cyfres Gwyl Dewi. Gwasg y Brifysgol. 3/6. Dylasai'r llyfr hwn fod wedi ei adolygu'n gynt, ond nid yw'r adolygiad yn colli yn ei werth wrth ei gadw, oblegid y mae'r llyfr o werth parhaol. Llyfr ar bwnc sydd yn rhan diddorol iawn o'r traddodiad Cymreig ydyw; er nad oes lawer mwy na chan mlynedd er pan ddigwyddodd Helynt y 'Beca, y mae eisoes wedi dyfod yn rhan o lên Cymru. Adroddir storiau am Rebeca a'i phlant ar yr aelwyd fel petasent yn rhan o chwedlau'r Tylwyth Teg.