Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gall plant bach fwynhau'r chwedlau hyn, ond fel y deuant yn hyn bydd arnynt eisiau gwybod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd, z gwybod hefyd pa achosion a barodd iddynt ddigwydd. Ni bydd pob plentyn yn gofyn "Pam?" ond dyna gwestiwn pob plentyn deallus, a phob myfyriwr deallus. Yn y llyfr hwn, rhwng y stori ddifyr a'r lluniau rhagorol, fe gaiff plant dosbarthiadau uchaf yr ysgolion, a'r Cymro cyffredin dar- llengar, wybodaeth glir a llawn am un o'r brwydrau mawr olaf rhag gormes a ymladdodd gwerin Cymru, pan oedd costau teithio a chludo nwyddau ar hyd y ffyrdd tyrpeg yn llethol ar eu hys- gwyddau. Dyma'r llyfr i blant a enillodd y wobr ar y pwnc hwn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd y llynedd. Y Bêl Aur, gan Mari Wyn Meredith. Gwasg y Brython. 5/ Gwlad yr Enfys, a Tref yr Hwiangerddi, gan Olwen Puw Lloyd. Gwasg Aberystwyth. 2/- yr un. Llyfr Nico, Llyfr I, II a 111, gan Edwin C. Lewis. Llyfrau'r Dryw. 2/- yr un Fy Atlas Cyntaf: Johnston a Bacon. 3/ Daeth y llyfrau hyn imi i'w hadolygu yn ystod y flwyddyn hon, a rhaid bodloni ar air byr amdanynt mewn cylchgrawn o natur Lleufer. Llyfrau straeon ydyw tri ohonynt, sef Y Bêl Aur, Gwlad yr Enfys, a Tref yr Hwiangerddi, storïau difyr wedi eu hadrodd yn dda, a chyfaddas iawn i'w darllen neu i'w hadrodd i blant a wahanol oedrannau yn ôl nodwedd y stori a'r iaith. Rhaid diolch yn galonnog fod cymaint o lyfrau diddorol, wedi ei hargraffu a'u darlunio mor ddeniadol, yn dyfod i gyrraedd plant Cymru heddiw, gan ddechrau efo'r rhai bach. Ond rhaid gofalu am beidio ag esgeuluso'r rhai hyn. Llyfrau addysgiadol ydyw'r lleill, sef tri Llyfr Nico (i'r plant bach) a Fy Atlas Cyntaf. Llyfr swynol dros ben ydyw'r Atlas yma, a bydd plant sydd â chwilfrydedd am ddysgu wrth eu bodd ynddo. Fe'i cyfieithwyd o'r Saesneg gan Beryl a Dafydd Orwig Jones, ac ni fuasai'n bosibl cael neb gwell at y gwaith. Ceir, er enghraifft, lun ystafell yn yr ysgol, ac yna map neu blan ohoni yn dangos pob desg a welir yn y llun. Yna, llun a map o'r ysgol, yn dangos ei safle yn y dref, yn ogystal â safle'r ystafelloedd a'r buarth chwarae. A phob yn dipyn o'r ystafell a'r buarth, ymlaen i'r byd mawr ehangach. D.T.