Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG HARLECH (COLEG PRESWYL I ADDYSG POBL MEWN OED; Warden: T. I. JEFFREYS-JONES, M.A. Y mae'r Coleg yn meddu adeiladau gwych wedi eu gosod mewn cefndir swynol, ac y mae'r cyrsiau yn agored i fechgyn a merched o ugain oed ac uchod sydd wedi colli'r cyfle am addysg bellach oherwydd troi i weithio. Cydweithreda'r Coleg â Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (ar linellau Coleg Ruskin yn Rhydychen) a chyda'r Dosbarth- iadau Adran Allanol ac awdurdodau eraill. Cynhelir Cyrsiau am Dymor ac am Flwyddyn mewn Llen- yddiaeth Gymraeg, Llenyddiaeth Saesneg, Economeg, Hanes, Athroniaeth, Gwyddor Gwleidyddiaeth, Seicoleg, Hanes Cymru, Cerddoriaeth, Celf a Chrefft. Y tâl am addysg a llety i mewn yn y Coleg, ydyw £ 200 y flwyddyn neu £ 70 y term. Cynigir Ysgoloriaethau a Chymorth ariannol sy'n ddigonol i dalu'r costau hyn i gyd gan y Coleg ei hunan. Gellir cael rhaglen y Coleg sy'n trafod y Cyrsiau a'r Ysgoloriaethau (a rhai ffynonellau ariannol eraill a gynigir i gynorthwyo myfyrwyr dewisol) gan-Yr Ysgrifennydd, Coleg Harlech, Harlech, Meirionnydd. Anfonwch ato ar unwaith am bob gwybodaeth bellach. ARGRAFFWYD GAN WASG GEE, DINBYCH