Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGRIFENNU CYFOES YNG NGHYMRU Gan EMYR HUMPHREYS I. Y NOFEL PETH cymharol newydd mewn llenyddiaeth yw'r nofel. Mae'n wir fod casgliadau lawer o straeon i'w cael o'r Lladin a'r Groeg, ac mae'n wir hefyd fod y gair nofel yn tarddu'n uniongyrchol o'r gair Eidalaidd novella, a bod llenyddiaeth y Dadeni yn yr Eidal yn llawn o novelle gan awduron fel Bandello a Boccaccio. Dylid nodi hefyd y rhamant bicaresg o Sbaen fel un o gyndeidiau'r nofel (y mae llinell uniongyrchol yn arwain o Lazarillo de Tomés i Lucky Jim). Ond y mae dechreuadau'r nofel fodern i'w canfod yn y ddeu- nawfed ganrif, ac yn arbennig yn llenyddiaeth Lloegr a Ffrainc. Y mae'n deg gofyn "Beth yn hollol yw'r gwahaniaeth rhwng y novella a'r noella de picers?" Y mae gwahaniaethau lawer, wrth gwrs, ond efallai mai'r prif wahaniaeth yw hyn; yn y novella y stori sydd yn holl-bwysig-yr hanesyn, y digwyddiad neu'r gyfres o ddigwydd- iadau hynod. 'Does dim cymaint o wahaniaeth i bwy y mae'r digwyddiadau yn digwydd-Marsiandwr o Napoli neu foneddiges o Burma, neu X neu Y. Yn y nofel, ar y llaw arall, y mae'r cymeriadau yn holl-bwysig. Sylwch ar enwau rhai o nofelau cynnar y ddeunawfed ganrif: Moll Flanders, Joseph Andrews, Roderick Random, La Nouvelle Heloise, Die Leiden des jungen Werter, Tom Jones, etc. Bellach y mae'r pethau sydd yn digwydd yn bwysig am eu bod yn digwydd ì hwn-a-hwn neu hon-a-hon, ac am eu dylanwad ar ddatblygiad y prif gymeriadau. Y mae amryw resymau hanesyddol am y newid hwn mewn pwyslais. Mi nodaf ddau. Yn gyntaf, Crefydd. Gyda'r Diwygiad Protestannaidd, fe gododd diddordeb newydd angerddol yng nghyflwr enaid yr unigolyn. Ffordd arall o ddisgrifio datblygiad enaid yr unigolyn yw sôn am "daith yr enaid", ac nid damwain, mi gredaf, yw'r ffaith fod llyfrau hanes y nofel Saesneg yn dechrau fel rheol gyda Taith y Pererin John Bunyan. Disgynnydd union, gyda llaw, o'r llyfr "eginol" hwn yw Theo- memphus William Williams, Pantycelyn, a phan ddaw llyfr o hanes y nofel Gymraeg i olau dydd, dyma yn sicr fydd man cychwyn y