Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYD-FYW Gan O. E. ROBERTS V SONIA bywydegwyr yn aml am "gadwyn-bwyd", sef y rhes cysylltiadau lle y mae'r naill beth byw yn dibynnu ar y llall am ei gynhaliaeth. Y planhigion gwyrdd yw'r ddolen gyntaf, fel rheol, a gall nifer o gadwyni gwahanol ddechrau o'r ddolen honno. Er enghraifft, dyna'r llysiau yn sugno nodd y llysieuyn a'r copynnod yn eu bwyta hwythau, adar bach yn gwledda arnynt hwy cyn syrthio'n ysglyfaeth eu hunain i'r cudyll. Cychwyn cadwyn arall yn wahanol, pan syrth dail y coed i'r ddaear, gan roi lluniaeth i bryfed genwair, sydd mor flasus i'r mwyalch, a syrthiant yn eu tro i afael y cudyll. Disgyn hadau a ffrwythau i'r ddaear, i'w bwyta gan falwod a fwy- teir gan adar eto. Y mae rhyw dri pheth syml i sylwi arnynt yn y cadwyni-bwyd hyn, sef mai byr iawn yw'r cadwyni, tair dolen yn unig weithiau, ac anaml y bydd rhagor na phum dolen. Peth arall yw mai'r mwyaf niferus yn y gadwyn yw'r rhai a ddaw yn y ddolen gyntaf, a bydd llawer llai yn y dolennau eraill wrth fynd o'r miliynau pryfetach a'r miloedd copynnod i'r cannoedd adar bach a'r ychydig adar mawr. A'r ffaith olaf yw'r ychwanegiad at faintioli'r unigolyn wrth esgyn yn ý gadwyn, o'r trychfilod niferus ond od o fychain i'r adar mawr prin, a phob creadur yn ysglyfaethu ar rai llai nag ef ei hun, ac yn mynnu llawer o'r math llai i wneud un pryd o fwyd iddo'i hun. Canlyniad y berthynas rhwng y gwahanol ddolennau yn y cad- wyni yw fod mantoliad rhwng pethau byw, mantoliad pur ansicr yn aml hwyrach, ac oherwydd hyn erys rhif unrhyw rywogaeth fel rheol yn nodweddiadol, gan yr erys perthynas rhwng adgynhyrchu a thyfu ar y naill law, a marw, o achosion naturiol neu annaturiol, ar y llall. Mewn natur wyllt, marwolaeth "naturiol" yw marw oddi wrth ymosodiad gelyn, ond y mae marw o haint yn fwy "annatur- iol" 0 lawer.