Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

STORl ANFON Y NICO I LANDWR Gan CYNAN AR wahoddiad golygydd hynaws Lleufer y mae'r bai 'mod-i'n ail-adrodd yma stori a glywodd amryw ohonoch gennyf eisoes ar y teledydd. Tŷ hyfryd oedd Glandwr a godwyd ar Ian Llyn Traffwll, ar gyfer eu peiriannydd gan Gwmni Gwaith Dwr Caergybi, a chan mai f'ewythr Evan Owen oedd y peiriannydd hwnnw, a bod dau o'i blant at yr un oed â mi, sef Megan a Wil Trefor, a bod croeso fy Modryb Marged yn ddi-ben-draw, yno y byddwn i'n cyrchu'n gyson ar fy ngwyliau haf o Ysgol Sir Pwllheli ac o Goleg Bangor. Mynd â'r beic ar y trên i stesion Valley, Wil 'y nghefnder yn fy nghyfarfod yno ar ei feic yntau, a'r ddau ohonom yn ei phedlan hi fel y gwynt ar hyd y lôn bost i Gaergeiliog, ac wedyn (ar ôl yfed potelaid o bop yn y Post a chael gair gyda Chatrin a John), troi ar y dde ar hyd lôn wledig gul a throellog heibio i'r ysgol, heibio i'r hen Dafarn Cwch, ac at Eglwys Llanfihangel, nes bod rhyfeddod disglair y llyn tan heulwen haf yn ymagor oddi tanom fel petai rhyfeddod y môr o wydr wedi ei osod ynghanol gwyrddlas unigedd Môn. I mi yn hogyn 'doedd dim golygfa i'w chymharu â'r olwg gyntaf hon ar Lyn Traffwll bob haf o glawdd Llanfihangel. Golygfa i'w hyfed mewn distawrwydd bob tro am sbel hir mewn rhagflas o'r mwynderau oedd i ddod. Wedyn codi'r ddau feic dros ben y giât fochyn a dilyn y llwybr tawel i lawr am Landwr Nid af i byth yno eto. Ychydig flynyddoedd yn ôl, mi'i treiais i hi gan feddwl ail-ddal atgofion a rhamant dyddiau ieuenctid. Cam- gymeriad! Yn lle'r tawelwch a'r unigedd gynt mae yna bentref prysur a helaeth bellach o dai gwyr yr Aerodrom; a phobol hollol ddieithr i mi sy'n byw yng Nglandŵr rŵan. Y pryd hynny, Glandwr oedd yr unig dy newydd yn yr ardal, ac fe'i cynlluniwyd yntau mor ddymunol gan bensaer y Gwaith Dwr fel ei fod yn ffitio'n hapus i'w osodiad ar y llechwedd uwch- law'r peiriandy pwmpio a'r gwely hidlo a phuro. Yr oedd ei ardd flodau amryliw feI darn o enfys ar y llechwedd, a f'ewythr Ifan yn meddwl y byd ohoni. Crefftwr o'r cywreiniaf oedd ef yn 'nabod curiad calon pob olwyn a phiston gloyw yn ei beiriandy glân ddydd