Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'n llawenydd gennyf fod y penillion syml a sgrifennais i yn 1916 fel rhan o lythyr, heb fwriad i'w cyhoeddi, er hynny wedi dwyn rhyw fesur o ddiddanwch hiraethlon o'u canu gan fechgyn Cymru mewn dau ryfel. Ond cyhoeddwyd hwy gyntaf heb yn wybod i mi. Megan a anfonodd gopi ohonynt i Bwllheli i'm tad, ac fe'u han- fonodd yntau hwynt i'r cylchgrawn, Welsh Outlook. Ni ddywedaf pwy oedd y golygydd y pryd hynny, ond gan Silyn y cefais i'r gweddill o'r stori flynyddoedd ar ôl hynny, sef wedi imi ddyfod i'w adnabod fel cyfaill gwiw gyda'r WEA ym Mangor. Pan oedd Silyn yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y rhyfel, byddai'n helpu golygydd y Welsh Outlook i ddethol y cynhyrchion barddonol o bryd i bryd. "Be' sydd gennym ni yn Gymraeg at y rhifyn nesaf?" meddai Silyn. "Mae hi'n dlawd iawn arnom ni'r mis yma", ebe'r golygydd. "Ddaeth yna ddim i law ond rhyw benillion gan ryw Private A. E. Jones o Salonica. Ond druan o'r hogyn, 'dydi o ddim wedi dysgu sbelio na gramadegu eto". "B'le maen nhw?" "Yn y fasged, debyg iawn. 'Fedrwn ni mo'u cyhoeddi nhw". Ac o'r fasged bapur wâst yn Ilythrennol y codwyd hwy gan Silyn y bardd, a sylweddolodd ar unwaith mai o fwriad yr oedd yr hogyn yma o filwr wedi sgrifennu ei gân ar dafodiaith. Fe'i dar- llenodd hi i'r golygydd, a chwarae teg iddo yntau, wedi cael eglur- had gan fardd, fe gydsyniodd i'w chyhoeddi. Eithr oni bai am Silyn, 'fuasai hi byth wedi gweld golau dydd mewn print. CARU DELFRYD (Efelychiad o An Ideal Passion William Watson) Nid Cymru fel y gwelaf hi Yw'r Gymru a aeth â 'mryd, Na Chymru gynt, er maint ei bri, A anghofiwyd gennym cyd. Y Gymru a wêl fy ngobaith draw A gerais i erioed- Mae'n addo, addo, o hyd y daw, Ac yna'n torri 'i hoed.