Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CREU GWAITH MEWN RHANBARTHAU AC ARDALOEDD DATBLYGU Gan R. O. ROBERTS DYWEDIR fod dyn o'r enw James Allen wedi chwilio'n hir, yn nhridegau'r ganrif ddiwetha, cyn penderfynu mai yng Nghoeg- nant ger Maesteg y gosodai ei waith sinc. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd W. H. Lever (a ddaeth yn Arglwydd Leverhulme) yn trampio a chwilota llawer cyn dod i'r casgliad mai'r lle sy'n awr yn Port Sunlight oedd y man gorau i'r gweith- feydd sebon a arfaethai. Mae digon o enghreifftiau tebyg, hen a diweddar, yn dangos fod diwydianwyr fel rheol yn meddwl llawer cyn dewis y lle i gychwyn neu osod gwaith ynddo. A naturiol yw hynny. Mater pwysig iawn i ddiwydianwyr yw lleoliad eu ffatrî- oedd. Rhaid i arweinwyr ffyrm gloriannu llawer o bethau sy'n effeithio ar eu gallu i gynhyrchu'n effeithiol ac i werthu'n broffidiol. Yn eu plith mae'r ffactorau a ganlyn: lleoliad y "ffactorau cynhyrchu" (y nwyddau crai, yr ynni, a'r bobl sydd ar gael i weithio) a'r gost a fydd o symud y rhain; lleoliad y marchnadoedd a'r gost y filltir o symud y cynhyrchion; y manteision sydd ar gael yn eu diwydiant hwy o ganoli gweithgarwch a chynhyrchu ar raddfa fawr mewn un lIe (naill ai mewn un ffatri fawr neu mewn casgliad o rai cysyllt- iedig yn agos i'w gilydd); a hefyd ystyriaethau arbennig-megis cael digon o le i adeiladu ffatri hir ami; cael Ue a rydd sylfaen digon cryf i ddal peiriannau trwm; a lle y gellir cael gwared yn weddol rwydd ynddo ag adgynhyrchion niweidiol, megis ysbwriel cemegol a nwyon. Lleolwyd gweithfeydd Cymru, a Phrydain Fawr (a'r rhan fwyaf o wledydd) bron i gyd trwy benderfyniadau arweinwyr diwydiant ar sail yr hyn a gredent fuasai'n dwyn lles i'w busnesoedd. Dyna oedd cymhellion y datblygiadau diwydiannol yn yr ardaloedd glo- faol; dyna paham y parhaodd diwydiannau i dyfu ac ymganghennu mewn rhanbarthau megis Canoldir Lloegr wedi i'r achosion cych- wynnol ddarfod â bod; a dyna pam y bu tynfa gref iawn yn y