Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMYL Y DDALEN Gan J. T. JONES ER hoffed gan rai darllenwyr ysgrifennu nodion ar ymyl y ddalen yn y llyfrau a ddarllenant, prin y mae arfer o'r fath i'w chymer- adwyo yn gyffredinol. Yn wir, fe wyddom bawb ond odid am rai pobl sy'n condemnio'r arfer yn gyfan gwbl. Ac eto i gyd, fe sgrifen- nwyd pethau go dda ar ymyl y ddalen o dro i dro—rhai ohonynt yn berlau llenyddol, eraill yn ddiddorol yn unig oherwydd eu digrifwch. Sut bynnag, rhyw fymryn o sgwrs am bethau trawiadol o'r fath yw'r ysgrif a ganlyn. Fe ddichon fod yr olwg gyntaf ar ymyl wen lydan y tudalennau mewn rhai llyfrau gynt yn ddigon i demtio ambell ddarllenydd i sgrifennu rhywbeth arni. Mewn ysgrif yn Y Geninen (Ebrill 1919), sonia Anthropos am gopi o Gorchestion Beirdd Cymru a gawsai yn anrheg gan gyfaill, ac meddai: Aeth 146ain o flynyddoedd heibio er pan ddaeth cyfrol Rhys Jones allan o'r wasg; ond y mae'r copi hwn wedi ei gadw'n ofalus er fod rhyw "feimiaid" wedi ysgrifennu nifer o gywiriadau ar ymylon y dail. Hawdd oedd gwneud hynny, gan fod y margins mor llydain. Clywais E.M.H. yn dweud mai dyna'r rheswm fod yr argraffiad hwn yn cael ei adnabod wrth yr enw-"argraffiad y bais wen"! Erbyn heddiw, fel rheol, y mae "ymyl y ddalen" mewn llyfrau o bob math yn llawer culach nag ydoedd erstalwm; ond nid wyf yn deall fod ysfa gwyr y nodiadau ronyn yn llai-ac os felly, hei lwc y bydd "gemau", weithiau, yn ogystal â "gwmon" yn eu gwaith hwy, megis yng ngwaith eu rhagflaenwyr. Y mae'n werth cofio, gyda llaw, mai i sgrifenwyr nodiadau ar ymyl y ddalen mewn llawysgrifau Lladin yn y Canol Oesoedd Cynnar yr ydym yn ddyledus am yr enghreifftiau cyntaf o Gymraeg ysgrifenedig,-glosau, cofnodion cyfreithiol a hanesyddol, englynion o'r hen ganiad, etc.; ond er maint pwysigrwydd ieithyddol y nodion hyn, nid oes ynddynt ryw lawer o werth llenyddol na dim digrifwch o gwbl. Pan drown at y llawysgrifau Cymraeg a llyfrau Cymraeg printiedig, fodd bynnag, cawn olwg ychydig yn wahanol ar bethau. Yn ei Ragymadrodd i'w lyfr mawr, Canu Aneirin, dyfynna Ifor