Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fyngu, crych-dalcennu, croes-fochgernu, safn-rythu, a ffroen- chwythu. A bu treial ar y pechadur wedyn ger bron Jac Glan y Gors, y llywydd. Hyd y gwn i, nid yw'r "ddalen wen" honno yn hysbysu pa ryw ddedfryd a basiwyd "ar y pechadur", Dafydd Ifan, ond fe ddengys nad oedd cyfarfodydd y Cymreigyddion yn weddus a thangnefeddus iawn bob amser. Un cyfeiriad arall, cyn terfynu. Fe ddywedir wrthym mai'r mwyaf poblogaidd o holl gyhoeddiadau'r cyfnod 1650-1750 yng Nghymru oedd yr "Almanac Cymraeg"-ac nid anodd credu hynny. Mewn almanac am 1701, sef "y ddeufed (sic) ar hugain o wneuthuriad Thomas Jones", dywedir fod "Tyranau Ddydd Sul yn rhagddangos y bydd marw Ustusiaid, a chyfreithwyr, a gwyr o ddysg ereill mewn ychydig amser"; ac ar ymyl un copi fe sgrifennodd rhywun: "Duw! dyro daranau ar y Sul! Gofynnodd un o ddarllenwyr Lleufer imi paham y sillafwn enw John Morris Jones heb gysylltnod weithiau, a thro arall rhoddi cysylltnod rhwng y "Morris" a'r "Jones". "John Morris Jones" (heb gysylltnod) oedd enw'r Athro nes iddo gael ei urddo'n farchog yn 1918. Ni all marchog gael dau enw bedydd; yr oedd yn rhaid iddo fod un ai'n "Syr John Jones" neu'n "Syr Morris Jones"­ni allai fod yn "Syr John Morris Jones". Dewisodd fod yn "Syr John"; ond i arbed colli'r "Morris" fe'i cydiodd wrth y "Jones" â chysyllt- nod, a gwneud "Morris-Jones" yn gyfenw newydd iddo'i hun. Felly y daeth "John Morris Jones" (hyd 1918) yn "Syr John Morris- Jones" (0 1918 ymlaen). Ni lwyddodd Brad erioed, bid siwr, A dyma'r eglurhad— Pan lwyddo ef, nid oes un gŵr A faidd ei alw'n Frad. — Syr John Harrington (efel.)