Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWRANDAWYR (The Listeners: Walter de la Mare) Gan J. T. JONES 'Oes rhywun i mewn?" ebe'r Teithiwr, Gan guro ar y drws, dan y lloer, A'i farch, yn hedd y coed, yn pori Y glaswellt rhedynog oer. Gwibiodd aderyn fry, uwchben y Teithiwr, O'r twred i fyny'n y to,- A thrawodd yntau'r drws drachefn yr ail waith: 'Oes rhywun i mewn?" eb efô. Ond ni ddisgynnodd neb at y Teithiwr: Ni ddaeth neb i syllu i lawr, O'r ffenestr uwchben, i'w lygaid llwyd, A chanfod ei benbleth mawr. Nid oedd namyn tyrfa o ledrith wrandawyr, A drigai'n yr annedd oer, Yn gwrando ar y llais hwn, o fyd dynion, Dan lewych dison y lloer,- Gan sangu'r pelydr gwan ar y grisiau a red I wacter y neuadd ddu,- Yn gwrando ar lef y Teithiwr unig Yn tarfu awyr y tŷ. 'Roedd yntau'n teimlo'u tawelwch A'u dieithrwch yn ateb ei lef, Tra porai'r march ar y dywyll lawnt Dan serog a deiliog nef: Canys fe drawodd y ddôr yn sydyn unwaith eto, Ac yn uwch, a chododd ei gri: — "Cedwais fy ngair, d'wedwch wrthynt,- Ac ni roes neb ateb i mi". Ond ni symudodd ac ni chyffrôdd y gwrandawyr, A'i eiriau ef, bob un, Yn atsain drwy'r cysgodion, oddi wrth yr un gŵr Oedd eto ar ddi-hun. Do, clywsant sŵn ei droed ar yr wrthafl, Tinc dur ar y palmant islaw, Ac esmwyth donnau distawrwydd yn dychwel, Pan beidiodd trwst carnau draw.