Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GEIRIAU'R MÔR Gan DAVID THOMAS FEDRA' i ddim siarad iaith y môr fy hun, ysywaeth; mae gan ddyn lawer o waith dysgu cyn y gall-o wneud hynny'n iawn. Ond mi fydda' i wrth 'y modd yn gwrando ar sgwrs hen gapteiniaid a llongwyr yn Nefyn a Moelfre, a'r Felinheli a Bangor 'ma, a sylwi ar i hymadroddion a'u geiriau-nhw-ymadroddion go gryfion weithiau, ymadroddion lliwgar beunydd. Un peth 'rydw i wedi sylwi arno'n neilltuol ynglyn â geiriau'r llongwyr ydi mai geiriau Saesneg yden-nhw bron i gyd, rhai ohonyn- nhw â rhyw liw Cymraeg wedi i roi arnyn-nhw. Halio, er enghraifft, llusgo rhywbeth, neu i godi-o drwy dynnu yn y rhaff; wel, yr ymadrodd Saesneg, to haul, debyg iawn. Bydd dynion yn y pyllau glo yn Neheudir Cymru'n sôn am yr häliars, on' byddan-nhw? Hyd yn oed llanw'r môr—dyna fyddwn w'n i alw-o-am y teitiau y bydd llongwr yn sôn, y gair Saesneg tide. Stern, meddai'r Sais am ben ôI y llong; 'i starn-hì, meddai'r Cymro. Hwylbrennau yr un fath-mi glywch y gair hwylbren weithiau, ond mestys neu mastiau fydd llongwyr yn i ddweud, o'r gair Saesneg mast-mestys glywch- chi amla. Mordaith wedyn-feiej ydi gair y llongwyr, o'r gair Saes- neg voyage—"wedi bod ar feiej rownd yr Horn". Stemar hefyd, nid agerlong; harbwr, nid porthladd. Mi glywais oddi ar draddodiad am longwyr Cymreig y ganrif o'r blaen, fod ganddyn-nhw enw Cymraeg am bob darn o'r Hong, ac y medrai ambell i gapten ohonyn-nhw hwylio'i long heb iwsio'r un gair o Saesneg; "Y Môr Du" oedd y Black Sea iddyn nhw. Wn í ddim faint o wirionedd sy yn y traddodiad yna-ychydig iawn o enwau Cymraeg fyddai gan y bobol hynny ar i llongau, beth byn- nag-Gwylan, Cymraes, Gomer, ond ychydig iawn, iawn. Hopeweìl a Speedwell, Nancy a Peggy, a'r Happy Return-dyna'r math o enwau oedd yn fwya cyffredin. Ond faint bynnag o dermau Cym- raeg fyddai gan longwyr Cymru gan mlynedd yn ôl, ychydig iawn sy ganddyn-nhw heddiw; mewn criwiau cymysg o Gymry a Saeson y byddan-nhw'n gwasanaethu ymhob man, ydech-chi'n gweld. Can- llawiau'T llong, rwan, bwlwarcs yden-nhw, nid canllawiau; giangwe ydi'r plane fydd yn mynd o'r llong i'r lan pan fydd-hi wrth y cei; whilws (wheel-house) ydi'r lle y bydd y llywiwr yn sefyll i droi'r