Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLWYBRAU PRIDD Gan WALDO WILLIAMS Llwybrau Pridd, gan T. Glynne Davies. Liyfrau'r Dryw. 7/6. DYMA'R gyfrol gyntaf o gerddi T. Glynne Davies, ac y mae'n cynnwys ei bryddest, Adfeilion, y coronwyd ef amdani yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, ei dref enedigol, yn 1951. Daethom y pryd hynny, gyda thipyn o ymdrech weithiau, i adnabod llwybrau ei ddychymyg bywiog a dilys, un sydd mor fynych yn hep- gor y canllawiau cyffredin am fod y delweddau mor ystyrlon iddo. Da iawn yw cael y cerddi hyn gyda'i gilydd. Mae'n gymorth iddynt gyd-egluro dulliau'r bardd. Y ddau beth sydd yn sefyll allan pan ddarllenwn ei waith fel hyn yw cyfaredd y cysylltu pan fo ei ddych- ymyg ar ei orau, pa un ai rhwng synnwyr a synnwyr ai rhwng prof- iadau mwy cymhleth. "Lliw'r grawnwin oer oedd ei llygaid": dyna dorri syched mewn tir cras. "Hithau ei fam ef yn drist fel gwylan": dyna rybudd i'r plentyn ar y traeth. A'r peth arall a welwn yw hoff safbwynt y bardd at fywyd, ei dueddfryd at siom a dadrithiad. Bywiogrwydd dychymyg ac iselder calon sydd i'w cael yn un yn llawer o'r cerddi. Yn y cerddi a ganodd ef yn y fyddin, ac allan o'r fyddin, amdano ef ei hun, cawn gyfanrwydd y profiad mewn delweddau sy'n cyfoethogi ei gilydd. Cwm Sych Mewn cwm sych dan grindail Daeth arnaf ddiflastod gwin. Cofiais lwch ar sandalau Un wen ei gwisg, lwyd ei hwyneb, Do, cofiais ei llygaid. Daeth ataf, pan oedd mymryn haul Yn tristáu rhyw hen neithiwr Lliw'r grawnwin oer oedd ei llygaid.