Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TOMOS HUWS Gan W. J. THOMAS PETAI rhywun yn galw ym mhentref Llan, Ffestiniog, ac yn aros yno am ychydig, byddai'n sicr o ddyfod i gyffyrddiad â Tomos Huws. Dyna fu fy mhrofiad i wedi imi ddechrau fy nhymor yno fel gweinidog. Y Nos Lun cyntaf wedi imi gyrraedd, cyhoedd- wyd cyfarfod o'r Cyngor Efengylaidd, a rhaid oedd i minnau fyned iddo. Nid oedd llawer wedi dyfod, ac nid oedd y Cadeirydd chwaith wedi cyrraedd. Dewiswyd gwr i gymryd ei le, a dechreuwyd ar y gwaith. Dieithr oedd pawb bron i mi, ond deëllais fod yno gynrych- iolwyr o'r gwahanol eglwysi. Yn eu plith yr oedd gwr wynepgoch yn tynnu ymlaen mewn dyddiau, a chanddo ddigon i'w ddweud ar bob pwnc a ddeuai i sylw. Gwyddwn nad oedd popeth a ddywedai yn hollol gywir, ond ni weddai i mi godi i wrthwynebu y noson honno. Ni fûm yn hir cyn tynnu rhai casgliadau. Er mai cynrychioli'r Annibynwyr yr oedd, dyfalais mai hen Fethodist ydoedd, a chredais y gallwn esbonio paham mai Annibynnwr ydoedd erbyn hyn. Yr un mor fuan, yr oeddwn wedi sylweddoli mai Sosialydd eiddgar ydoedd, ac er ei fod yn danllyd ac eithafol teimlwn nad gŵr di- ddarllen ydoedd. Nid oeddwn yn cytuno â phopeth a ddywedai, ond teimlwn fod ganddo farn ar nifer o bethau, ac y mynnai ei datgan trwy'r tew a'r tenau. Ni welais mohono yn ymyl am tua phythefnos ar ôl hynny, er fy mod yn teimlo y carai gael gair â mi. Digwyddodd inni daro ar ein gilydd ar un 0 lwybrau'r ardal. Ef a siaradodd gyntaf, a dywed- odd fod arno eisiau ymddiheuro imi am rai pethau a ddywedasai > noson y gwelswn ef gyntaf. Wedi siarad peth deellais mai'r hyn a'i cyffroesai yn y cyfarfod hwnnw oedd y Cadeirydd-gwr distaw, disymud. ac erbyn hynny wedi dechrau heneiddio. Ni theimlai Tomos Huws mai gwr felly a ddylai fod yn gadeirydd unrhyw gyfarfod. Rhydd y ddau gyfarfyddiad hyn ddarlun cywir o Tomos Huws fel yr adnabûm i ef. Yr oedd ynddo ddau gymeriad, neu'n well, yr oedd dwy ochr i'w gymeriad. fel y cefais achos i ddarganfod ugeiniau o weithiau ar ôl hynny. Y peth olaf a ddywedaswn amdano oedd "mai gŵr dau-ddyblyg ei feddwl" ydoedd; mynnai lynu fel y gele wrth ei argyhoeddiad, er nad oedd ei ffordd o'i fynegi yn dderbyniol gan y lliaws, ac nid wyf yn meddwl y dywedai llawer