Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyfynnais frawddeg o Epistol Iago uchod. Yr oedd yr Epistol hwnnw i gyd ar ei gof, fel yr oedd rhannau helaeth o Lyfr Amos hefyd. Teimlai fod y ddau lyfr yn rhoddi mynegiant clir o'i ffydd wleidyddol, gymdeithasol a chrefyddol. Ychydig o amynedd oedd ganddo â'r Apostol Paul, ond byddai yn ei gyhuddo o bethau na sylwais i erioed fod yr Apostoi wedi eu datgan! Ni allaf feddwl am yr un cylchgrawn Cymraeg y gellid coffáu Tomos Huws ynddo ond Lleufer, a phrin y cawswn groeso ganddo am wneuthur hynny yn yr un arall. Ond credaf y byddai'n falch o'i galon fod nodyn amdano yng nghylchgrawn Mudiad Addysg y Gweithwyr. Heddwch i'w Iwch; yr oedd yn "garictor" yn y "Llan" tra bûm i yno. Byddaf bob amser yn falch o groesawu cylchgrawn Cymraeg newydd, a chroesawaf yn awr Triban (2/6 y rhifyn), a gyhoeddir gan Blaid Cymru, er nad yw'n newydd sbon erbyn hyn. Bob hanner-blwyddyn y cyhoeddir ef, rhifynnau Saesneg a Chymraeg bob yn ail, ac y mae'r tri rhifyn Cymraeg cyntaf ger fy mron. "Ysgrifau ar Fywyd Economaidd a Chymdeithasol Cymru" a geir ynddynt-Dyfodol Amaethyddiaeth Cymru (Richard Phillips), Coedwigoedd Cymru a'r Diwydiant Papur (A. W. Curran), Pobl a Chynnyrch (R. O. Roberts), Tai a Llywodraeth Leol (Bargyfreith- iwr), &c. Yn ei ysgrif ddeallus, Gwladoli'r Diwydiant Glo, dadleua Wynne Samuel mai'r "Cam Nesaf" ddylai fod rhoddi llais i'r gweithwyr eu hunain yng ngweinyddiad y glofeydd. Rwy'n llwyr gytuno ag ef, ond y mae'n cymryd gormod yn ganiataol wrth dybied fod y pamffled, The Miners' Next Step (1912) yn cynrychioli barn "y glowyr Cymreig" ar fater gwladoli. Yn ei ysgrif, Traddodiad Radicalaidd Cymru, cais Ioan Bowen Rees olrhain hanes Radical- iaeth yn y Blaid Ryddfrydol, a'r Blaid Lafur, a Phlaid Cymru. Ysgrif ddiddorol. Rhifyn Coffa Robert Owen ydyw'r ail rifyn, a chawn ysgrifau gwerthfawr gan R. O. Roberts ac Idris C. Bell, dau Ddarlithydd yn Adran Economeg Coleg Abertawe, a chan y golygydd di-enw. Y mae Triban wedi ei argraffu'n raenus ar bapur da. Bydd y rhifyn Saesneg nesaf yn trafod dyfodol Prifysgol Cymru.