Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR 0 RHOSLAS Gan C. E. THOMAS MAE gwaith y WEA yn mynd rhagddo yn llwyddiannus iawn 1 yng Nghanolbarth Cymru, er gwaethaf y tywydd mawr a'r teithio hirfaith. Anhawster mawr arall ydyw'r diboblogi sy'n par- hau, a'r ffaith fod y boblogaeth mor denau. Dim ond 44,700 o bobl yn Sir Drefaldwyn i 510,000 o aceri-tros ddeng acer o dir i bob copa walltog, ac "i'r rhai heb ddim gwallt", chwedl Huw Jones. Nid mater hawdd yw cael llawer o ddosbarthiadau lluosog at ei gilydd mewn poblogaeth mor wasgaredig; serch hynny, y mae'r mudiad yn ei sefydlu ei hun yno, ac yn ennill mwy a mwy o gyfeillion ac o gefnogaeth. Ar wahân i ddosbarthiadau, y maent hefyd wedi cynnal amryw Ysgolion Undydd a Darlithiau Arbennig rhagorol. Er enghraifft, daeth 78 i Ysgol Undydd yn Llansanffraid i wrando ar T. I. Jeffreys-Jones, Warden Coleg Harlech, yn dar- lithio ar "Y Farchnad Gyffredin". Y mae Pwyllgor Cyffredinol cryf yn y Canolbarth yn awr, a Phwyllgor Gweithiol bywiog, o dan lywyddiaeth Moelwyn Williams, sy'n trefnu i dorri tir newydd ym myd Addysg Pobl mewn Oed yno. Yr ydym wedi colli-dros dro, rwy'n gobeithio-ysgrifennydd gweithgar Cangen Bro Ddyfi, sef R. Caerwyn Hughes, sydd wedi mynd yn fyfyriwr i Goleg Harlech am flwyddyn. Eiddunwn iddo bob bendith a llwyddiant. Bydd colled ar ei ôl yn y gangen, ond fe gedwir honno ymlaen gan y swyddogion eraill. Rhaid rhoi hanes cangen wledig Is-Aled ar gof a chadw. Y mae ganddi diriogaeth eang, yn cynnwys Llangernyw, Llanfair T.H., Llanefydd, Llansannan, Tan-y-Fron, Rhiw a Brynrhydyrarian, ac y mae'n gofalu am y pentrefi bychain bob un. Y mae ganddynt bump o ddosbarthiadau llewyrchus, a cheir cydweithrediad rhwydd rhyngddynt. Cynhaliant Seiat Holi bob blwyddyn, a'r ddau Wr Gwadd ar y panel fis Tachwedd diwaethaf oedd J. M. Thomas, o Adran Cemeg Coleg Bangor, a Ronald Griffith, Llanrwst. Yr oedd yno gwestiynau o bob dosbarth, rhai da iawn hefyd, a chafwyd cyfraniadau rhagorol gan y ddau "banelwr". Wedi'r ornest, cafwyd swper gwych gan Mrs Mars Jones. Y mae rhyw gyfeillgarwch cyn- nes yn ffynnu yn y gangen hon, fel ymhob cangen WEA dda. Mae dosbarth newydd wedi ei gychwyn yn y Gerlan, a Meuryn