Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OR SWYDDFA YNG NGHAERDYDD Gan D. T. GUY Y MAE'N ystrydeb dweud fod ardaloedd diwydiannol Deheudir Cymru yn ystod y blynyddoedd diweddar wedi newid yn ddir- fawr. Nid gwlad o ychydig ddiwydiannau sylfaenol, glo, haearn a dur, wedi eu gwasgaru ar led drwy bob parth o'r Deheudir, a'r rhai hynny yn cynnal nifer o gymdeithasau cryfion a bywiog, ydyw mwyach. Pethau'r gorffennol ydyw'r melinau bach dur a sitiau dur, a'r mân lofeydd lleol, ac yn eu lIe y mae gennym ffatrïoedd enfawr mewn ychydig ganolfannau yn cyflogi miloedd o weithwyr yn defnyddio dulliau peirianyddol modern. Croesawn y cyfnewidiadau hyn ar y naill law, ond ar y llaw arall gresynwn amdanynt oher- wydd eu heffeithiau pell-gyrhaeddol ac aflonyddol ar fudiadau addysgol a diwydiannol. Mewn llawer ardal, y mae'n mynd yn anhawddach o hyd cael aelodau i ddilyn dosbarthiadau yn gyson, na hyd yn oed cynnal cyfarfodydd o'r canghennau. Dyma'r ddau brif reswm: yn gyntaf, teithiau hirion mewn bysus at eu gwaith ac oddi wrth eu gwaith, a diffyg awydd am fynd allan o'r tŷ ar ôI bod oddi cartref mor hir; ac yn ail ac yn bwysicaf, y gweithio mewn shifftiau afreolaidd a elwir yn Sustem Shifftiau'r Cyfandir. Collodd yr hen "Ddiwedd Wythnos" (weekend) ei ystyr, a bydd y "Diwrnod Gorffwys" yn digwydd yn ôl y shifft. Creodd hyn anawsterau i Ganghennau'r WEA na wyddom eto sut i'w gor- esgyn. Fe wnaed nifer o arbrofion i geisiou'u gorchfygu, a chafwyd peth llwyddiant gyda rhai. Er enghraifft, ym Mhont-y-pŵl gallodd 1 20 o weithwyr Nylon Spinners fynychu Ysgolion Undydd-pedair ohonynt-a drefnwyd ar Ddyddiau Llun a Dyddiau Mawrth. Trwy gydweithrediad ein Trefnydd-ac-Athro, Harry Jones, ac Ysgrifen- nydd Undeb y Trawsgludwyr a'r Gweithwyr Cyffredin, y cafwyd hyn. Cynigiwyd arbraw arall yng Ngwaith Dur Glynebwy. Trefnwyd gyda'r Oruchwyliaeth i neilltuo un o'r ystafelloedd darlithio yn y 11e i gynnal dosbarth wythnosol. Er mwyn i'r gweithwyr allu mynd iddo cyn cychwyn adref, trefnwyd iddo ddechrau am 5.30. Ymael- ododd 19, ac yr oedd cyfartaledd y myfyrwyr am 12 wythnos yn 12. Y mae terfynau i arbrofion fel y rhain, ac y mae clod yn ddyledus i Drefnwyr-ac-Athrawon llawn-amser y WEA a'r Colegau am roi cynnig ar bob cynllun i gyfarfod â'r anawsterau mewn ardaloedd