Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDD Un Nos Ola Leuad, gan Caradog Prichard. Gwasg Gee. 12/6. Dyma nofel orau 1961. 'Roedd Daniel Owen am inni fod yn dda, Tom Rolant Hughes am inni fod yn hapus, Kate Roberts am inni fod yn rhydd, a C.P. am inni gael ein diddori. Enillydd y goron genedlaethol deirgwaith yw'r awdur; a'i Briodas yn bryddest orau'r iaith gen i. Deliais fy anadl wrth gychwyn dar- llen-a gyflawnodd orchest arall ym myd y nofel? Bod yn ymwybodol o'r gorffennol oedd yr ysbrydiaeth i Thomas Hardy, oherwydd bod defnyddiau dihysbydd i greu ynddo. Prin y mae nofelwyr ieuainc heddiw'n ymddiddori yn y gorffennol. Nid am y credant nad oes daioni'n dwad o hynny, ond am mai peth di-fudd yw oni chysylltir ef â phethau sydd i ddwad. Cysylltir hynny yn y nofel-brofiad ffres a diddorol hon. Y mae "human-interest" ei darnau o fywyd yn ysgubol, yn gamp — camp dyn canol oed yn cofnodi profiadau bachgendod. Ond, rhaid oedd i'r llenor gaffio'r Bardd i'w helpu ym Mhennod viii a'r diweddglo. Ynddynt y gorwedd cyfriniaeth gyfrwys (subtle) y nofel, megis mai cyfrinach priodas cnawd ac ysbryd yw cyfrinach y Bardd yn Y Briodas. Nid newyddiadurwr llwyddiannus Stryd y Fflyd, a'r byd yn ardd gefn iddo, a edrydd y stori, ond plentyn deg oed a etifeddodd siarad plaen a geiriau lliwus chwarelwyr rhesdai ym Methesda, ac yn nhafodiaith y pentref. Dyma newyddbeth yn y Gymraeg, mor newydd â nofel ddiweddar ar ffurf barddoniaeth yn Saesneg. Albwm yn llawn o luniau byw ydyw. Camp yw disgyn i fyd plentyn. Y mae eisiau athrylith fel yr annwyl Tegla Davies i aros yno. Fe wnaeth C.P., â melyster llinynnu atgofion fel T.R.H. yn O Law i Law. Y mae yma allu sblennydd i adrodd stori, i greu ac i gynnal diddordeb, sgil, hwyl ac afiaith gwerinwr. Y mae'r peth "ryff" agos-i'r-pridd hwnnw gan Dic Tryfan (sgrifennwr mwya'r stori fer Gymraeg gen i), a realaeth gignoeth chwarelwr. Ni bu sgrifennu cry fel hyn o'r blaen yn y Gymraeg. Ceir yma ddewiniaeth meis- trolaeth Williams Parry; e.e., y plentyn yn gorfod gado'i fam yn y Seilam yn crio­ "Ond crio run fath â taflyd i fyny".