Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Straeon Cwta., gan Glyn a Iestyn Roberts. 7/6. Profion Un-ar-ddeg, gan Gerallt Davies. 4/6. Llwybrau'r laith, gan W. Meurig Evans. 7/6. Ffwfiau'r Awen, gan W. Leslie Richards. 7/6. Y cwbl gan Lyfrau'r Dryw. O nyth y "Dryw", fel y gwelir, y daw'r pedwar llyfr hyn. Yn rhagair tri ohonynt telir teyrnged i symbyliad, cefnogaeth a brwd- frydedd Emlyn Evans. Y mae dyled ein hysgolion iddo yn drwm. "Cyfres o ymarferion darllen a deall, yn cynnwys darnau gwreiddiol o farddoniaeth a rhyddiaith addas i blant hynaf Ysgol- ion Cynradd a phlant ieuengaf Ysgolion Uwchradd yw Straeon Cwta. Rwy'n siwr y bydd derbyniad parod i'r llyfr, gan fod ynddo ddigon o amrywiaeth deunydd o fyd hanes, natur, daearyddiaeth, gwyddoniaeth ac antur, fel y gwelir wrth graffu ar glawr lliwgar Hywel Harris. Byr iawn yw'r holl ddarnau, fel yr awgryma'r teitl; ond dyma, ond odid, rinwedd y llyfr i'r athrawon hynny sy'n ymgodymu â phlant y mae darllen yn waith araf iddynt. Ceir cwestiynau dealltwriaeth ac ymarferiadau cyffredinol ar ddiwedd pob darn. Hyd nes daw pob Awdurdod Addysg mor oleuedig â'r eiddo Sir Gaernarfon, bydd angen am lyfrau tebyg i Profion Un-ar-ddeg. Os cyfyngir y rhain i brofi, yn achlysurol, eirfa'r plentyn, popeth yn iawn. Ond yn anffodus, tueddir i'w defnyddio fel cyfrwng dysgu-a dyna afradu amser y gellid ei ddefnyddio yn llawer mwy buddiol waith llafar byw, neu ddysgu brawddegu a pharagraffu. Hyn o gwyn, oherwydd dywedir yn y Rhagair y bwriedir y profion i fod "yn gyfrwng ychwanegu at eirfa'r plant ac i feistroli Cymraeg glân", yn ogystal â bod yn bapurau arholiad. Amheuaf, fodd bynnag, a fydd llawer o'r toreth geiriau han- iaethol yn rhan o eirfa plentyn un-ar-ddeg; ac yn sicr nid prawf ar iaith yw cwestiynau 86-90 ar t. 28! Wrth gwrs, nid barn ar y llyfr yw beirniadaeth ar ei gamddefnyddio. Mae yma ddeg "papur" cynhwysfawr iawn, gwaith hanner awr prysur dros ben bob un. yn cynnwys pob math ar brawf arferedig. Mae'n sicr y bydd mynd mawr ar y llyfr, a chopïau ohono ymhob ysgol. Fe fydd unrhyw ysgol-neu berson-y mae eu copiau o Ymar- ferion Cymraeg William Rowlands wedi ymddatod trwy hir ddefn- yddio, yn falch dros ben o groesawu Uwybrau'r Iaith. Bydd eraill hefyd, wrth gwrs, sydd heb ymgydnabod â'r Y marferioll-os oes rhai felIy-yn dra diolchgar. Crybwyllaf lyfr William Rowlands am