Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar ddechrau pob adran ceir ymdriniaeth fer a chryno ar y ffurf y ceir enghreifftiau ohoni. Ceir hefyd nodiadau eglurhaol ar "Odl, Mydr a Throadau Ymadrodd" ar ddechrau'r Canu Rhydd, ac ar "Y Cynganeddion" ar ddechrau'r Canu Caeth ac ar "VersLibre" ar ddechrau'r Canu Penrhydd. Mae geirfa fer ac ychydig nodiadau byrion ar ddiwedd y llyfr. Rhoddir awgrym yn y Rhagair sut y gellid defnyddio'r llyfr; ond ffansi'r athro ei hun fydd yn penderfynu hyn, wrth gwrs, ac yn sicr bydd athrawon yr Ysgol Fodern yn gorfod hepgor nifer o'r nod- iadau eglurhaol-yn enwedig y rhai ar "fydr". Yn wir, a ddylid trin "ffurf" ond yn nosbarthiadau uchaf yr Ysgol Ramadeg? Onid digon fydd cael gan y plant eraill adnabod y ffurf? Ond, dyna hi, ar gyfer y plant hyn, mae'n debyg, y bwriedir y llyfr-er na ddy- wedir hynny. Defnyddier y gyfrol fel y mynner, fodd bynnag, bydd yn wir gaffaeliad yn ein hysgolion uwchradd. Diolch yn fawr i Mr Richards ac i Lyfrau'r Dryw amdani; a diolch yn arbennig am yr adran ar y baledi. Os oes eisiau llyfr o farddoniaeth Gymraeg i'r ysgolion, llyfr o faledi yw hwnnw. D. RAYMOND CHALLENOR The Logic of Self-Defence, gan Patrick Lort-Phillips. Christopher Davies. 7/6. Llyfr ydyw hwn ar ddiarfogaeth niwcliar, pwnc dyrys y mae'r eglwysi a'r pleidiau gwleidyddol a phawb yn rhanedig arno. Y mae wedi ei sgrifennu'n glir, ac yn trafod ei bwnc yn rhesymol ac yn olau. Cymer y gwahanol ddadleuon o blaid arfogaeth niwcliar, ac etyb hwy bob yn un. I'r rhai a ddeil fod arfau niwcliar yn angenrheidiol i'n hamddiffyn, etyb nad oes dim amddiffyniad rhag ymosodiad niwcliar yn bosibl. I'r ddadl fod eisiau amddiffyn ein buddiannau a'n masnach drwy'r byd, cymer y buddiannau hyn fesul un ac un, a rhydd yr un atebiad. Geilw sylw at yr ynfydrwydd o slensio Rwsia i ryfel niwcliar heb ddarparu llochesfeydd i drigol- ion y wlad hon rhag y bomiau. "Petai rhyfel niwcliar yn dechrau, y mae ein trefniadau presennol yn ddigon inni allu difodi 50 miliwn o Rwsiaid mewn ychydig ddyddiau, a mwy na'u hanner yn wragedd a phlant. a mwy na 90 y cant yn bobl ddiarfau a diamddiffyn. A allai unrhyw genedl wareiddiedig gyfiawnhau'r fath weithred, beth bynnag fyddai'r cymhelliad?" Y mae'n bosibl codi gwrthadleuon i rai o'i ddadleuon, ond y mae'r llyfr yn un gwir werth ei ddarllen. D.T.