Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU Cyf. XVIII HAF 1962 Rhif 2 NODIADAU'R GOLYGYDD UN rheswm paham y mae llawer o bobl Cymru yn peidio â siarad Cymraeg ydyw eu bod wedi dysgu Saesneg, a chan fod yn rhaid gwybod yr iaith honno yn yr oes sydd ohoni, ni welant ei bod yn werth cadw'r un iaith arall yn fyw. Gwelant fod eu cymdogion y Saeson yn fodlon ar un iaith, a phaham na ddylai un iaith fod yn ddigon iddynt hwythau, a honno'n iaith y bydd pawb yn ei deall? Nid ymresymant y mater fel hyn, ond fe'i teimlant. Y mae'n amlwg na sylweddolant nad ydyw holl bobl y byd yn debyg i'r Saeson, ond bod medru dwy iaith yn beth cyffredin iawn ymhob rhan o'r byd. Efallai y bydd ysgrif Jac L. Williams yn y rhifyn hwn yn help i'w goleuo-drwy gyfrwng rhai o'i ddarllenwyr. Rhyw leiafrif o bobl ymhob gwlad sydd â diddordeb mewn iaith er ei mwyn ei hun, pobl â diddordebau llenyddol, pobl sydd yn hoffi dysgu am hanes a thraddodiadau eu gwlad, ac sydd yn awyddus am gadw eu cysylltiad â'r hen ddull o fyw ac o feddwl. Ond nid oes gan bobl gyffredin ddiddordeb mewn llenyddiaeth, nac yn iaith a thraddodiadau eu gwlad. (Wrth bobl gyffredin golygaf yn y Nodiadau hyn, nid y werin dlawd, ond y dyn cyffredin ymhob cylch o gymdeithas). Nid rhywbeth i'w goleddu a'i amddiffyn ydyw iaith i'r bobl hyn, ond rhywbeth i'w ddefnyddio. Hyd yn ddiweddar, y Gymraeg oedd yr unig iaith a fedrai'r rhan fwyaf o bobl Cymru, a honno a ddefnyddient. Ond erbyn hyn, yn enwedig yn y ganrif hon, y maent wedi ymgynefino â'r iaith Saesneg, yn enwedig ar y radio a'r teledydd, ac ni theimlant gymaint o angen am yr iaith Gymraeg bellach. Rhaid inni ddyfeisio ffordd, neu ffyrdd, i gydio'r iaith Gymraeg wrth eu hanghenion a'u diddordebau pob dydd, nes eu bod yn meddwl amdani fel iaith yr ugeinfed ganrif, ac nid rhyw hen ddodrefnyn y mae'n ddyletswydd arnynt ei gadw am ei fod yn hen. I'r ychydig ohonom y mae'r ystyriaeth honno yn cyfrif dim. Ond os deil y bobl gyffredin i siarad Cymraeg, fe'i siaradant yn