Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYD-FYW Gan O. E. ROBERTS VI SÔN am gyd-berthynas gwahanol rywogaethau o anifeiliaid a llystyfiant a wnaed yn y gyfres hon hyd yn hyn, ond y mae eraill heblaw dynion yn cyd-fyw mewn cymdeithasau. Ymysg trychfilod y mae hyn amlycaf, oherwydd datblygodd cymhlethdod arbennig yn y modd y mae rhai mathau o'r rheini yn cynnal eu cymdeithasau. Cyhoeddwyd eisoes yn Gymraeg ddigon ar agweddau ar fywyd y gwenyn (E.e. Rhamant y Gwenyn a Cyfrinachau Natur) ac oherwydd hynny trown i ystyried y morgrug, fel y cynghorodd y gwr doeth ni gynt. Mewn dau grwp o drychfilod y canfyddir gwir fywyd cym- deithasol, sef ymysg y termitau (a gamenwir yn forgrug gwyn ") ar y naill law, a'r grwp sy'n cynnwys gwenyn, gwenyn meirch, a morgrug ar y llall. Gyda'r olaf y bu'r llwyddiant amlycaf mewn sefydlu cymdeithasau, a chofier fod dros dair mil o wahanol rywogaethau o forgrug, yn amrywio'n fawr o ran maint, ac wedi eu haddasu at un math arbennig o fyw. Bychan iawn yw'r trychfilod, felly prinnach lawer yw'r celloedd yn eu hymennydd nag mewn ymennydd unrhyw anifail. Arweiniodd hyn i ddatblygiad hollol wahanol i eiddo'r anifail, gan ddibynnu ar reddf yn hytrach na dealltwriaeth-er bod ychydig o hwnnw- i wynebu amgylchedd, y reddf honno'n naturiol gynhenid ac nid yn ganlyniad dysgu a disgyblu, fel yn hanes llawer anifail, yn adwaith mor ddall i amgylchiadau fel nad oes ond un math o ymddygiad beth bynnag fo'r galw. Eto, ymysg trychfilod o'r fath yn unig y cawn ni unrhyw gyfundrefniaeth ar linellau cymdeithasol dynol. Ac ymysg y morgrug cawn gyfochredd nodedig, gan fod ganddynt hwythau eu hamaethwyr a'u garddwyr, eu milwyr a'u caethion. Ni lwyddodd mathau eraill o'r trychfilod i gyrraedd lefel uchel cymdeithas y morgrug, lIe mae bywyd unigolion y drefedigaeth wedi ei drefnu er budd y boblogaeth yn gyffredinol. Y mae ymhob cymdeithas o forgrug bedwar dosbarth, pob un â'i swyddogaeth ei hun yn y gymdeithas honno. Y mae yno frenhines, nifer o wrywiaid, gweithwyr a milwyr. Yn wahanol i'r gwenyn, bydd weithiau ragor nag un frenhines mewn trefedigaeth.