Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEDDYLIAU Gan T. LLEW JONES 1. AR NOSWYL NADOLIG Pe genid eto'r Baban Yng ngwlad y Dwyrain draw Ni phlygai mwyn fugeiliaid Uwchben ei bram ail-law. Ni fentrai tri o ddoethion Dros erwau'r tywod poeth; Rhy fydol yw'n bugeiliaid A'n doethion sy'n rhy ddoeth. Pe gelwid mab i forwyn I'r un anhygoel dasg, Sgandal y Geni Gwyrfol A hawliai sylw'r Wasg. 2. WRTH GWYMPO Derwen Am iti estyn nawdd dy darian werdd Ar lawer nos ddrycinog dros fy mwth, Ac am it' fod yn llwyfan adar cerdd, A'th frig i drwbadwr y gwynt yn grwth- Ni fynnwn daro llafn i'th foncyff brych Na thynnu llif dros raen dy ruddin gwych. Ond am fod iti rym nas medd fy nghlai, Ac am y byddit dirf uwch llwch fy medd Yn herio Ionawr, yn croesawu Mai, Heb arwydd o'r dadfeilio yn dy wedd, Mi gydiaf yn y fwyell loyw, myn diawch! A thynnaf fawd sadistig dros yr awch.