Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3. AR NOSON STORMUS O'r hen aflonydd wynt! Ei lais a hyllt Dangnefedd enaid yn chwilfriwiau mân! Heno, ar dannau'r deri, clywaf wyllt Orfoledd hen drythyllwch yn ei gân. Ac weithiau, wedi nos, o gylch fy mwth Gwallgofrwydd digllon sy'n ei leisio croch,- Gwallgofrwydd Nero gynt, yn tiwnio'i grwth A Rhufain wrth ei draed yn adfail coch. A phan fo'n cribo'r hesg ar fin y nant, Ar rewllyd nos loer-olau, clywaf lais Wylofain mamau'r oesoedd am eu plant A chri'r rhianedd beichiog wedi'r trais. Mae pob hen wae, pob hen rialtwch gynt, Ar gof a chadw ar recordiau'r gwynt. MALI (Trosiad o'r gân-When Molly smiles. Dyddiad y gân yw 1732, ond nid yw enw'r awdur yn hysbys). Gan J. T. JONES, Porthmadog Wrth odro'i buwch bob bore a hwyr Mae Mali'n denu 'mryd yn llwyr; Ac yn ei dillad Sul mae hon Yn difa'r heddwch dan fy mron. Beth wnaf? Dan wenau hon o hyd 'R wy'n esgeuluso 'ngwaith i gyd. Ac yn yr eglwys, coeliwch fi, 'R wy'n colli'r wers o'i hachos hi. Ẅr Duw, bendithiwch fi â'r ddawn I weithio ac i wrando'n iawn; A chyn Nadolig, myn fy nghred, Cewch chwithau un o'm gwyddau'n ged.