Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGRIFENNU CYFOES YNG NGHYMRU Gan EMYR HUMPHREYS II. Y DDRAMA OS golygwn wrth ddrama chwaraeon a sgrifennwyd i'w hactio gerbron cynulleidfa tu mewn i chwaraedy, yna nid yw'r ddrama Gymreig yn hen iawn; ac yn wir, os cyfyngwn bwnc ein trafodaeth yn fwy fyth, a dywedyd na ellir sôn am y fath beth â Drama Gymreig heb fod gennym Chwaraedy Cymreig Ue y gall dramodwyr proffesiynol ysgrifennu dramâu i actorion proffesiynol, yna fe ellid dadlau nad yw'r Ddrama Gymreig wedi ei geni eto. Ond y mae'n amlwg nad yw hyn yn wir, oblegid fe ymddengys y llwyfan yn Lloegr yn aml yn llawn o actorion Cymreig, ac y mae gwaith dramodwyr Cymraeg beunydd o flaen llygaid eu gwrandawyr mewn rhyw ffurf neu'i gilydd. Po fwyaf y meddylier am hyn, rhyfeddaf yn y byd yr ymddengys. A oes rhyw wlad arall yn Ewrop lle y mae gan y bobl enw eu bod yn hoff o'r ddrama, ac eto heb chwaraedy iddynt eu hunain? Waeth heb sôn am faint ein gwlad, oherwydd yr oedd gan Norwy, â phoblogaeth gryn lawer yn llai na hi, chwaraedy iddi ei hun gan mlynedd yn ôl, a chynhyrchodd Ibsen, dramodydd mwyaf y cyfnod diweddar. Credaf y byddai'n werth ceisio datrys y dirgelwch hwn cyn manylu am gyflwr y Ddrama Gymreig heddiw. Paham y mae gennym gymaint o ddramodwyr, a dim un chwaraedy? (Golygaf wrth y gair chwaraedy ar hyd yr ysgrif hon chwaraedy proffesiynol amser llawn). Ond gadwch inni ddechrau drwy egluro paham nad oes gan Gymru chwaraedy. Nid oes arnaf eisiau cychwyn yn rhy bell yn ôl, ond mi garwn ddechrau drwy atgoffa ichwi fod yn yr Oesoedd Canol, dros Ewrop i gyd, chwaraedy y gallai pobl fynd iddo am ddim, sef yr eglwys. Chwaraeid dramâu yn yr eglwys i hyfforddi'r gynulleidfa drwy roddi iddi adloniant crefyddol. Adroddid hanesion o'r Beibl iddynt, a dysgid iddynt sut i fyw, a hynny mewn modd effeithiol iawn. Gwneid hyn yng Nghymru ac yn Gymraeg yn union yr un fath ag ymhob man arall, ac y mae gan lenyddiaeth Gymraeg ei rhan yn yr hyn a oroesodd o'r Chwaraeon Dirgelwch a'r Chwaraeon Miragl.