Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mewn cyferbyniad cryf i hyn, y mae cymeriadau John Gwilym Jones yn glawstroffobaidd o leol: bodolant mewn lle ac amser a ymddengys yn naturiol a gwir, a siaradant Gymraeg pob dydd; ond trwy ryw ddewis cyfrwys alcemistaidd mewn safle ac iaith, rhydd y dramodydd gyflawn ryddid iddynt i fynegi'r farddoniaeth dywyll sydd yn eu calonnau. Athrylith i drafod iaith yn cael ei defnyddio i ddatguddio barddoniaeth yr is-ymwybod. Edrych y bydd ef ar y pethau pob dydd a normal; dyna Richard Owen, y clarc siwrin parchus-mor fanwl a chyson yn ei arferion-ond tu ôl iddynt canfyddwn ffwrnais eirias o orffwylledd. Ceir yr un farddon- iaeth ffyrnig yn nwyd feddiannu delwedd y fam, a ail-adroddir mor aml yn ei ddramâu. Dyma ddau ddramodydd pwysig, ac ni all neb sydd â diddordeb yn y chwaraedy fforddio anwybyddu eu gorchestion hyd yn hyn. Y mae'r ddau yn feistriaid ar arddull sydd wedi perffeithio eu hofferynnau mynegiant arbennig eu hunain. Ond er amlyced ydynt, nid ydynt o gwbl yn unig: ni soniais ddim am waith D. T. Davies, Huw Lloyd Edwards, John Ellis Williams, W. S. Jones, John Griffiths, Gwyn Evans, a llawer un arall, oherwydd y mae arnaf eisiau dangos, ie, dyrnu i feddwl y bobl pe medrwn, er cystal yw'r ddau ddramodydd hyn, ac er mor bwysig ydyw eu gwaith (a chredaf mai eu gwaith hwy yw'r ddrama bwysicaf a sgrifennir yng Nghymru heddiw, mewn unrhyw iaith), eu bod yn cael eu rhwystro a'u llyffeitheirio, fel eu cyd-ddramodwyr Cymreig-Saesneg, gan absenoldeb chwaraedy proffesiynol. Cyfyd eu diffygion o ddiffyg cael eu perfformio'n gyson a manwl. Rhoes y teledydd a'r radio eu cynhorthwy, ac fe ddaliant i gynorthwyo, ond nid oes dim a gymer le cwmni hyfforddedig o actorion, cynulleidfa ddeallus a beirniadol, llwyfan a staff cyfaddas, a chwaraedy lle y gellir curo a choethi arddull yr awduron a'r actorion megis y curir ac y coethir yr haearn o dan forthwyl y gof. PERTHNASAU (Un o Englynion Digri buddugol Eisteddfod y Myfyrwyr, 1962) Ces berthynas yn asyn,-a hen afr 'N fam-yng-nghyfraith wedyn; Do wir, a dwedodd Darwin Mai'r mwnci yw dadi dyn. Aled Jones, yn y cylchgrawn, Eisteddfod.