Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYDYMDEIMLAD (I John Griffith, Llanllechid) Gan CYNAN Mae rhai'n ei ddweud ar lafar Trwy eiriau dethol, cu; A rhai'n ei ddweud trwy lythyr Tirion o dy i dy; Ond un yn unig ddwedodd Gyfrolau dwys trwy blu. Arhosai'n amyneddgar Wrth borth y capel bach Tra rhown gyhoeddiad arall, A gorffen canu'n iach I lond sedd o flaenoriaid; Cyfarchodd fi heb strach. "Ni fedrwn anfon llythyr Llenyddol ebe John, Na dweud trwy deleffonio Gyd-ofid dwys fy mron, Ond gwnes ich' blu pysgota; Hwdiwch yr anrheg hon 'Roedd lwmpyn yn fy ngwddw, A deigryn ar fy ngrudd, Bron fel mewn cymun santaidd Wrth gloi y Sabath ddydd: -Cwrteisi'r Mabinogion Mewn hen chwarelwr prudd. A thradwy ar lan Aled, Tan wanwyn-falm ei lli, A'r brithyll at blu'r artist Yn codi'n fawr a ffri, John Griffith, yr hen gyfaill, Bendithiais d'enw di. (Bydd darllenwyr LLEUFER oll yn cyduno â mi yn cydymdeimlo â Chynan yn ei ofid dwys o gladdu ei wraig. — d.t.)