Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DWYIEITHEDD AR GYNNYDD Gan JAC L. WILLIAMS PAN dderbyniais wahoddiad caredig golygydd LLEUFER, ym mis Ebrill, i ysgrifennu erthygl i Rifyn yr Haf ar Ddwyieithedd, yr oeddwn ar gychwyn i Gynhadledd Ryngwladol a gynhaliwyd yn Hamburg, yn y Sefydliad Addysg sydd gan UNESCO yn y ddinas hardd honno. Amcan y Gynhadledd hon oedd trafod y dulliau gorau o ddysgu ail iaith neu iaith estron i blant bach. Gwahoddwyd fi yno fel Warden Seminar Ryngwladol a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn 1960 i drafod Dwyieithedd mewn Addysg, a hefyd fel un a fedrai ddweud rhywbeth am brofiad Cymru o geisio dysgu dwy iaith i'w phlant. Y mae cynnal cynadleddau o'r math yma ynddo'i hun yn beth gwerthfawr ac yn arwydd o'r diddordeb cynyddol sydd mewn dysgu ieithoedd. Mae'n ddiddorol ac efallai'n bwysig i ddyfodol ein cenedl a'n hiaith fod llais Cymru i'w glywed yn amlwg ynddynt ac y mae edrych i gyfeiriad Cymru am arweiniad yn beth cyffredin ymhlith arbenigwyr y maes, gan ein bod wedi ymhel â dysgu dwy iaith ar raddfa eang ers tro, ac wedi mabwysiadu cadw iaith cenedl fach ochr yn ochr â dysgu iaith fyd-eang fel delfryd addysgol ers hanner canrif a mwy. Ni chawsom lawer o lwyddiant, a hynny'n bennaf am inni beidio â defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng addysg yn ogystal â'i dysgu fel pwnc. Oherwydd hynny, mae Cymru druan, y wlad a anelodd at arwain ond a fethodd fagu digon o hunan-barch a dyfalbarhâd i wneud hynny'n effeithiol, yn mynd yn llai dwyieithog mewn cyfnod pan yw gallu i siarad dwy iaith yn dod yn fwyfwy cyffredin ledled y byd. Dim ond pump o'r mwy na thair mil o ieithoedd sydd yn y byd sydd yn ieithoedd byd-eang, ac y mae ar y mwyafrif llethol o genhedloedd y byd angen gwybodaeth o iaith fyd-eang, yn ogystal ag o'u priod ieithoedd eu hunain, er mwyn byw bywyd boddhaol yn yr ugeinfed ganrif. Dyna paham y mae siaradwyr ieithoedd gwledydd Sgandinafia yn dysgu Saesneg mor gyffredin ac mor effeithiol, Israel yn amcanu at ledaenu gwybodaeth o'r iaith Saesneg trwy'r wlad yn ogystal ag adfer yr Hebraeg, a siaradwyr mwy na 70 o ieithoedd yn yr Undeb Sofiet yn dysgu Rwsieg yn ogystal â'u hieithoedd eu hunain.