Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANES CYMRU A'R CYMRY YNG NGHYFNODOLION 1961 Gan MOELWYN I. WILLIAMS YN y tudalennau a ganlyn rhoddir rhestr o ysgrifau a gyhoedd- wyd mewn cyfnodolion detholedig Cymraeg a Saesneg yn ystod y flwyddyn 1961. Mabwysiedir eto yr un dosbarthiad testunol ag o'r blaen, sef dosbarthiad wedi ei drefnu'n fras iawn yn ôl natur cynnwys yr erthyglau yn hytrach nag yn ôl eu teitlau. Wrth gyflwyno'r rhestr lyfryddol ganlynol dylid efallai dynnu sylw'r darllenydd at ddigwyddiad pwysig ym myd llyfryddiaeth Gymreig yn ystod y misoedd diwethaf, sef cyhoeddi ail argraffiad o A bibliography of the history of Wales, gan Wasg Prifysgol Cymru. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf, a olygwyd gan R. T. Jenkins a William Rees, mor bell yn ôl â 1931, ac er i hwn fod yn fath o vade mecum yr hanesydd Cymreig am dros ddeng mlynedd ar hugain, yr oedd gwir angen yr ail argraffiad. Paratowyd y gyfrol newydd gan Bwyllgor Hanes a Chyfraith Bwrdd Astudiaethau Celtaidd ar sail yr egwyddor-" that the revised Bibliography should serve the scholarly needs of historians generally, and that it should include material published up to December 31, 1958 Fel y byddai disgwyl, y mae sawl llyfr pwysig, a llawer mwy o erthyglau, ar hanes Cymru wedi eu cyhoeddi oddi ar 1958, ac felly, yn y cyfamser, rhaid i'r darllenydd chwilio am eu hanes mewn llyfryddiaethau eraill. BYRFODDAU: Agric-Agriculture; Arch. СаmЬ—Archœ- ologia Cambrensis; BBCS—Вulletin of the Board of Celtic Studies; Bath-Bathafarn; Carm. Antiq-Carmarthenshire Antiquary; Cered—Сeredigion; CLHM-Carmarthenshire Local History Magazine; Cof—Сofiadur; Drys-Drysorfa; Efr. Ath—Еfrydiau Athronyddol; EHR-Economic History Review; Eurg-Eurgrawn; FHSP-Flintshire Historical Society Publication; Gen-Genhinen; JHSCW—Journal of the Historical Society of the Church in Wales; IHSPCW—Journal of the Historicai Society of the Presbyterian Church of Wales; JMLHC-Journal Monmouthshire Local History Council; JRWAS-Journal of the Royal Welsh Agricultural Society; Ll. C-Llên Cymru; Lleu—Lleufer; Mont. Coll­ Montgomeryshire Collections; Morg-Morgannwg; NLWJ- National Library of Wales Journal; RST—Radnorshire Society