Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GAIR O RHOSLAS Gan C. E. THOMAS DRUAN o'r Ysgrifennydd, dim ond dau dudalen i roddi hanes y chwarter diwethaf, cyfnod llawn o arwyddion adfywiad ymysg y canghennau a'r dosbarthiadau, ysbryd newydd ar gerdded megis drwy'r tir. (Na, wir, cefais gynnig tri thudalen). Cangen Ardudwy, mewn cydweithrediad â Changen Ffestiniog, wedi trefnu Ysgol Undydd yng Ngholeg Harlech, a thros gant o bobl wedi dod ynghyd i wrando ar Ieuan John o Goleg Aberystwyth a Michael Foot, yr aelod tros Lynebwy, yn traethu ar "Gyd- Berthynas y Gwledydd a Heddwch y Byd". Ni welwyd ysgol undydd WEA o'i bath yng Ngholeg Harlech ers blynyddoedd. Merched Cangen Ardudwy wedi trefnu te tan gamp i bawb rhwng y ddwy ddarlith. Mrs K. W. Jones-Roberts oedd y llywydd yn y pnawn, a John Davies, Coleg Harlech, yn yr hwyr. Diolchwn yn gynnes i Warden Coleg Harlech am sicrhau rhwyddineb trefniadol. Gyda llaw, yr ydym oll yn falch fod y Warden, T. I. Jeffreys- Jones, ar y ffordd i gael llwyr wellhad wedi bod o dan driniaeth feddygol. Hyderwn y bydd wedi cryfhau ddigon i ail-afael yn ei orchwylion yn fuan. Arwydd o fywiogrwydd a hyder oedd sosial Cangen Bìwmares, y dosbarthiadau, wedi tymor llwyddiannus, ar eu huchelfannau yn eu mwynhau eu hunain a 11u mawr o gyfeillion. Un funud yr oeddym yn ôl rai canrifoedd mewn pasiant yn crynhoi darn o hanes yr hen dre. Yn fuan wedyn ym Montmartre, mewn caffe Parisaidd, a Lautrec yr arlunydd o'n blaen. Cyfraniadau y dosbarth- iadau Hanes a Gwerthfawrogi Celfyddyd oedd y rhain. Nid oedd y dosbarth diwinyddol am lwyfannu dim; felly, hwy a ddarparodd y coffi a'r bisgedi i bawb yno. Noson ardderchog, a swyddogion y gangen wrth eu bodd. Cafodd canghennau eraill Nosweithiau Llawen eithriadol o lewyrchus, ond nid oes ofod i wneud mwy na chrybwyll rhai ohonynt. Cangen Uwchgwyrfai wedi cynnal dwy, y naill gan ddosbarth Groeslon a'r llall gan ddosbarth Rhosgadfan. Clywsom hefyd am Noson Lawen unedig Cangen Dyffryn Ogwen, a'r neuadd dan ei sang. Cangen Ffestiniog wedi cynnal cyfres o ddarlithoedd pnawn Sadwrn eithriadol 0 lwyddiannus. Trefnwyd cyfres hefyd i rai o'r bobl sy'n gweithio ar yr atomfa yn Nhrawsfynydd. Ond bron nad